Wylfa Newydd yn dangos yr angen i symleiddio ymchwiliadau medd adroddiad
Mae adroddiad newydd yn argymell y dylai cyfnod archwilio ar gyfer gorsafoedd niwclear fod yn fyrrach os yw'r dechnoleg wedi cael sêl bendith yn y gorffennol.
Yn ôl y Tasglu Rheoleiddio Niwclear wnaeth wneud y ddogfen fe allai lleihau'r cyfnod dorri costau ynni i gwsmeriaid.
Bwriad yr adroddiad oedd adolygu rheoleiddio'r diwydiant niwclear ac amddiffyn.
Mae'r tasglu arbenigol yn dweud bod y gwrthwynebiad gan yr arolygwyr i adeiladu Wylfa Newydd yn dangos yr angen i symleiddio'r broses. Roedden nhw yn gwrthwynebu ar sail yr effaith amgylcheddol a diwylliannol.
“Mae nifer yr achlysuron lle mae awdurdodau archwilio wedi argymell y dylid gwrthod prosiectau o bwys cenedlaethol wedi cynyddu yn gyflym dros amser,” meddai’r adroddiad.
“Ym mhob achos bron a bod, mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi gwrthdroi'r argymhellion hyn.
“Fe wnaeth yr awdurdod archwilio ar orsaf niwclear Wylfa Newydd ei wrthod yn seiliedig ar effeithiau ar forwennoliaid a safleoedd gwarchodedig, ac effeithiau economaidd-gymdeithasol a diwylliannol gweithlu adeiladu mawr ar yr ardal leol.
“Mae'n annhebygol iawn y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cytuno â'r casgliadau hyn o ystyried manteision yr orsaf niwclear newydd.”
‘Cymhlethdod diangen’
Yn ôl yr adroddiad fe allai grwpiau sy'n gwrthwynebu orfod talu costau'r ymchwiliad os ydyn nhw yn ail adrodd yr un dadleuon.
Mae Canghellor Llywodraeth y DU yn barod i groesawu galwad yr adroddiad am ddiwygiadau yn ôl yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net. Bydd Rachel Reeves yn ymateb i'r canfyddiadau yn y Gyllideb yr wythnos yma.
Dywedodd cadeirydd y Tasglu, John Fingleton: “Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth.
“Mae’r problemau’n rhai systemig sydd wedi’u gwreiddio mewn cymhlethdod diangen a meddylfryd sy’n ffafrio prosesau yn hytrach na chanlyniadau.
“Mae ein hatebion yn rhai radical ond yn angenrheidiol.
“Drwy symleiddio rheoleiddio, gallwn gynnal neu wella safonau diogelwch wrth o’r diwedd ddarparu capasiti niwclear yn ddiogel, yn gyflym ac yn fforddiadwy.”
Cefndir Wylfa Newydd
Fe wnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau y byddai gorsaf ynni niwclear newydd yn cael ei hadeiladu ar safle atomfa'r Wylfa yn Ynys Môn.
Bydd 3,050 o bobl yn gweithio ar y safle wrth adeiladu tri adweithydd modiwlaidd bach (SMR), ac y bydd yn darparu hyd at 900 o swyddi llawn amser hir-dymor.
Ond bydd y datblygiad yn llai na’r atomfa wreiddiol.
Fe wnaeth arolygwyr cynllunio a benodwyd gan lywodraeth y DU argymell y dylid gwrthod ail atomfa yn 2019. Roedden nhw yn rhybuddio am ei effaith ar fioamrywiaeth, yr economi leol, stoc tai a'r iaith Gymraeg.
Ond nid hynny arweiniodd yn y pen draw at atal y prosiect, gyda chwmni Hitachi yn rhoi gwybod nad oedden nhw am fwrw ymlaen gyda’r cynllun ym mis Medi 2020.
