
‘Dipyn o waith i greu Metro De Cymru’
Mae “dipyn o waith i’w wneud” er mwyn gallu creu system fetro o amgylch rhannau o dde Cymru.
Bydd system Metro De Cymru yn gwneud hi’n haws teithio o Gaerdydd i siroedd cyfagos.
Fel rhan o’r gwaith, bydd pum gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu, gyda 170km o gledrau angen eu trydaneiddio.
O ganlyniad i’r gwaith, bydd y rheilffordd rhwng Aberdâr a Phontypridd ar gau am 16 diwrnod rhwng dydd Sadwrn 28 Awst a 12 Medi, gyda bysiau yn cael eu cynnig yn lle.
Bydd y gwaith o baratoi ar gyfer trenau trydan yn cael ei gyflawni dros gyfnod o 24 awr y dydd.
Ar ôl eu gosod, bydd y trenau newydd yn “lleihau amseroedd aros” rhwng Aberdâr a chanol dinas Caerdydd, ac fe fydd y gwasanaeth yn cynyddu i bedwar bob awr.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru: “Mae gennym ni dipyn o waith i’w wneud i greu Metro De Cymru.
“Mae hyn yn cynnwys yr uwchraddiad mwyaf i isadeiledd Llinellau Craidd y Cymoedd o'r raddfa hon ers iddo gael ei adeiladu’n gyntaf, fel y gallwn ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach y mae pobl cymoedd De Cymru yn eu haeddu.
“Tra bod gwaith yn digwydd, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio'n gyfrifol trwy sicrhau bod ein safleoedd yn cael eu rheoli'n dda a bod ein pobl yn ystyriol o'n cymdogion.”