Beth sydd angen i Gymru ei wneud yn erbyn Gogledd Macedonia?
Fe fydd Cymru yn wynebu Gogledd Macedonia yng ngêm olaf rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Ar ôl curo Liechtenstein mewn gêm rwystredig oddi cartref nos Sadwrn, fe fydd llwybr Cymru i Gwpan y Byd yn cael ei benderfynu ar sail canlyniad y gêm nos Fawrth.
Yn dechnegol, byddai Cymru neu Gogledd Macedonia yn gallu cymhwyso yn awtomatig o hyd wedi i Wlad Belg, sydd ar frig Grŵp J, gael gêm gyfartal yn erbyn Kazakhstan nos Sadwrn.
Ond Liechtenstein ydy gwrthwynebwyr olaf Gwlad Belg, a byddai buddugoliaeth yn sicrhau mai Belg sydd ar frig y grŵp.
Gyda gwahaniaeth goliau sylweddol gan Wlad Belg, byddau hyd yn oed gêm gyfartal yn erbyn Liechtenstein yn ddigon.
Mae Cymru a Gogledd Macedonia yn gyfartal ar 13 o bwyntiau ar hyn o bryd, ac fe fydd pwy bynnag sydd yn ennill nos Fawrth yn hawlio'r ail safle.
Ond mae methiant Cymru i gau'r bwlch ar y gwahaniaeth goliau yn golygu y byddai gêm gyfartal hefyd yn ddigon i'w gwrthwynebwyr.
Fe fydd Cymru heb Jordan James a'r capten Ethan Ampadu wedi iddyn nhw gael cerdyn melyn yn y gêm yn Liechtenstein.
Os ydy Cymru yn gorffen yn drydydd, maen nhw fwy neu lai yn sicr o gêm ail-gyfle a hynny yn dilyn eu llwyddiant nhw yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.
Ond yr anfantais o hynny ydy y bydd hi'n llawer anoddach iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd wrth iddyn nhw orfod wynebu rhai o dimau cryfaf Ewrop.
Os ydy Cymru yn curo Gogledd Macedonia, fe fydd tîm Craig Bellamy yn chwarae rownd gyn-derfynol yn y gêm ail-gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Pe bai hyn yn digwydd, fe all Cymru wynebu gwrthwynebwyr gan gynnwys y Weriniaeth Tsiec, Albania, Kosovo neu Bosnia-Herzegovina.
Ond hyd yn oed os ydy Cymru yn curo'r gêm honno, fe fyddan nhw o bosib yn gorfod curo tîm o Bot Un yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd.
Fe fydd tîm cartref y rownd derfynol yn cael ei benderfynu yn ddiweddarach eleni.
Bydd yr enwau yn cael eu tynnu o'r het ar gyfer y gemau ail gyfle, ddydd Iau, 20 Tachwedd yn Zurich.
Mae prif hyfforddwr Cymru Craig Bellamy yn sylweddoli pa mor bwysig y mae'r gêm hon i obeithion Cymru.
Dywedodd: “Mae Gogledd Macedonia yn amddiffyn yn ddwfn, maen nhw’n hapus i beidio â chael meddiant, ond maen nhw’n gwrthymosod yn dda.
“Rydyn ni eisiau i’r cefnogwyr gydnabod yr adegau pan fydd eu hangen ni fwyaf.
"Rydyn ni’n gwneud hyn gyda’n gilydd, ac mae’n rhaid i ni roi rhywbeth iddyn nhw i’w gymeradwyo hefyd.
“Mae gorffen yn ail a chael gêm gartref yn enfawr, dim ond o’m profiad i o wylio Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gallwch weld ei fod yn fantais enfawr.”
Mae Harri Wilson yn dychwelyd fel capten ar ôl iddo golli'r gêm ddiwethaf.
Ychwanegodd Bellamy. “Mae Harry yn chwarae ar lefel uchel iawn.
"Mae wedi creu argraff mawr arnai a sut mae'n ymddwyn hefyd, ac mae pawb yr un fath, mae'n fraint bod gyda'r grŵp hwn, ond mae Harry ar flaen y gad yn hynny hefyd.”
