'Cenhadaeth foesol': Newidiadau i ddiwygio'r drefn fewnfudo

Yr Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood

Bydd gweinidogion Llywodraeth San Steffan yn ceisio newid y gyfraith hawliau dynol, er mwyn ei gwneud yn haws i anfon mewnfudwyr anghyfreithlon allan o'r Deyrnas Unedig. 

Mae'n rhan o'r cynllun i weddnewid y system wrth geisio am loches.

Yn cael ei ddisgrifio fel y newid mwyaf i gyfundrefn y Deyrnas Unedig yn yr oes fodern, mae'r Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood yn bwriadu newid y modd y mae Prydain yn derbyn ffoaduriaid sy'n ffoi rhag rhyfel. 

Mae Ms Mahmood wedi dweud wrth y BBC bod hyn yn "genhadaeth foesol i fi achos dwi'n gallu gweld bod mudo anghyfreithlon yn rhwygo ein gwlad, mae'n rhannu cymunedau." 

Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun.  

Bydd hi'n cyflwyno bil er mwyn newid y modd y mae Erthygl 8 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol - yr hawl i fywyd teuluol - yn cael ei ystyried mewn achosion llys.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref hefyd yn bwriadu ystyried newid y gyfraith fel nad oes modd i bobl apelio droeon yn erbyn ceisiadau aflwyddiannus am loches.

Bydd barnwyr yn gorfod asesu'r cydbwysedd rhwng hawliau ceiswyr lloches a sefyllfa'r cyhoedd yn ehangach o dan y drefn newydd. 

Ymateb gwleidyddol 

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud nad yw'r llywodraeth yn gwneud digon.

Yn ôl llefarydd y blaid ar gyfer Materion Cartref, Matt Vickers, "gimig i raddau helaeth" yw'r cynllun newydd.

"Rydyn ni yn croesawu unrhywbeth os nad yw'r llywodraeth yn llaesu dwylo ac yn bwrw ymlaen er mwyn ceisio taclo'r mater.

"Mae'n her enfawr i'r wlad yma, mae'n gost anferth i'r trethdalwr ac yn annheg. Rydyn ni yn croesawu unrhyw symudiadau positif gan y llywodraeth.

"Ond mewn realiti camau bach iawn yw'r rhain, camau bach yn y cyfeiriad iawn ond gimig i raddau helaeth," meddai wrth raglen BBC Radio 4 Today.

Ychwanegodd bod angen i bobl sydd yn ceisio cyrraedd Prydain trwy groesi ar gychod bach wybod y byddan nhw yn gorfod gadael.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS: “Gyda’r cyhoeddiad hwn, mae Llafur yn plygu i’r dde boblyddol, gan alluogi agenda Nigel Farage drwy gyfnewid egwyddorion am benawdau diog. 

"Bydd eu cynigion yn cosbi pobl sydd eisoes wedi dioddef caledi ofnadwy. Nid yw cymryd eiddo personol a gadael teuluoedd mewn limbo biwrocrataidd am hyd at 20 mlynedd yn angenrheidiol nac yn deg."

Ychwanegodd: “Mae system loches y DU wedi cael ei chamreoli ers tro byd – mae’n gostus, yn anhrefnus, ac yn methu ffoaduriaid a’r cymunedau sy’n eu croesawu. Byddem yn cefnogi mesurau i wneud y system brosesu yn fwy effeithiol, ond dim ond codi ofn, rhwystro integreiddio, a thanseilio sefydlogrwydd economaidd y bydd rhethreg yr Ysgrifennydd Cartref yn ei wneud. 

"Y gwir yw bod ffoaduriaid yn cyfrannu at ein cymunedau ac at ein heconomi, ond yn rhy aml maent yn cael eu bwrw fel dim ond baich."

Mae rhai aelodau o'r blaid Lafur hefyd wedi beirniadu'r cynlluniau. Mae'r llywodraeth yn "mynd yn llwyr i'r cyfeiriad anghywir" meddai'r AS Rachael Maskell. 

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi beirniadu'r cynlluniau diweddaraf hefyd.

Beth yw'r manylion?

Bwriad y llywodraeth yw lleihau nifer y bobl sydd yn cyrraedd Prydain ar gychod bach. Mae'r newidiadau hefyd i fod i gyflymu'r broses o anfon ceiswyr lloches sydd wedi methu yn eu cais i aros yn ôl i'w gwlad yn gynt. Maent hefyd eisiau gwneud hyn gyda throseddwyr o dramor.

Fe fydd system Denmarc yn cael ei mabwysiadau sef creu corff annibynnol i anfon troseddwyr a rhai sydd ddim yn debygol o gael eu cais wedi eu cymeradwyo yn ôl i'w gwlad yn gyflym.

Bydd y system newydd hefyd yn ei gwneud hi'n fwy anodd i geiswyr lloches llwyddiannus aros. Bydd eu cais yn cael ei adolygu bob dwy flynedd a hanner. Os bydd y wlad maent wedi ffoi ohoni yn cael ei hystyried yn saff i ddychwelyd iddi yna bydd disgwyl iddynt fynd yn ôl yno.  

Yn ogystal bydd ffoadur yn gorfod bod ym Mhrydain am 20 mlynedd yn lle pump cyn gallu ceisio am arhosiad parhaol. Ni fydd hawl ganddynt i ddod ag aelodau o'r teulu draw oni bai eu bod yn berthnasau agos.

Fydd darparu cartref a lwfans wythnosol ddim yn rhywbeth fydd o reidrwydd yn cael ei rhoi i geiswyr lloches.

Fydd Prydain ddim yn darparu visas i bobl o dair gwlad yn Affrica chwaith os na fydd eu llywodraethau yn gwella cydweithrediad o safbwynt cael gwared a mudwyr anghyfreithlon. 

Y gwledydd hyn yw Angola, Namibia a Gweriniaeth Ddemocratiadd y Congo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.