Chwilio am aelod o'r llynges oddi ar arfordir Iwerddon
Mae criwiau achub yn chwilio am aelod o'r Llynges Brydeinig sydd ar goll oddi ar arfordir gogledd-orllewin Iwerddon.
Yn ôl Adran Drafnidiaeth Gweriniaeth Iwerddon, cafodd yr aelod o'r criw ei weld ddiwethaf tua 10.30 nos Wener, ar long y llynges.
Derbyniodd gwylwyr y glannau alwad gan swyddog o'r llong toc cyn 9.00 fore Sadwrn, yn nodi fod aelod o'r criw ar goll.
Roedd y llong yn hwylio i'r gogledd o Tory Island, yn Sir Donegal ar y pryd
Mae criwau achub yn chwilio yn y môr ac o'r awyr.
