Newyddion S4C

Teyrngedau i chwaraewr rygbi fu farw yn ystod gêm

Newyddion S4C 22/08/2021

Teyrngedau i chwaraewr rygbi fu farw yn ystod gêm

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr fu farw yn ystod gêm rygbi yn Abertawe.

Roedd Alex Evans, 31 oed, yn chwarae i Glwb Rygbi Cwmllynfell yn erbyn Clwb Rygbi Crynant ym Mharc y Bryn, Cwmllynfell mewn gêm gyfeillgar ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ddywedodd y clwb: “Does dim geiriau, a does dim geiriau i ddisgrifio heddiw..

“Rydym wedi colli brawd ar y cae, ac mae’n brifo gymaint..

“RIP Alex.. mae’r clwb a’r gymuned mewn sioc ac wedi tristau.”

Image
Alex Evans - llun teulu
Mae Alex Evans wedi cael ei ddisgrifio fel 'crwt hoffus' oedd bob tro â 'gwên ar ei wyneb'. Llun teulu.

'Crwt hoffus'

Yn ôl Ysgrifennydd Clwb Rygbi Cwmllynfell, roedd gan Mr Evans "o hyd wên ar ei wyneb".

Dywedodd Gareth Evans: "Odd Alex yn grwt hoffus, odd amser 'da fe i bawb.

"Ta beth odd e'n neud odd e'n neud e gyda gwên ar ei wyneb e, pun ai taw gwaith, 'ware rygbi, treino, cael peint 'da fe odd o hyd amser 'da Alex i chi, odd o hyd gwên ar ei wyneb e."

Mae'r newyddion yn ergyd i'r clwb, yn ôl Mr Evans.

"Ni 'di colli brawd. Brawd ar y cae, brawd off y cae.

"Odd e'n fit, odd e'n 'ware rygbi, odd e'n 'ware yn y rheng ôl, odd e'n grwt ffit.

"Beth ddigwyddodd ddoe, mae fe'n drasig."

"Alex, s'dim geiriau i weud.

"'Na gyd byddai'n cofio yw'r gwên cheeky, direidus 'na odd 'da fe ar ei wyneb e trwy'r amser."

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi rhoi teyrnged.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr undeb: “Mae ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Alex, ffrindiau, cyd-chwaraewyr a phawb yn y clwb.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Cawsom ein galw ddydd Sadwrn 21 Awst am oddeutu 15.00 i adroddiadau fod person angen sylw meddygol ar frys yng Nghlwb Rygbi Cwmllynfell, Cwmllynfell.

"Fe wnaethon ni ymateb gydag un cerbyd ymateb brys, dau ambiwlans brys ac un cerbyd o'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys."

Fe gadarnhaodd Heddlu'r De eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad brynhawn dydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi dioddef ataliad ar y galon.

Ychwanegodd yr heddlu nad oes "amgylchiadau amheus" ynghylch farwolaeth, a bod manylion yr achos wedi ei drosglwyddo i'r crwner.

Llun: Llun teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.