Yr heddlu'r parhau i ymchwilio i ymosodiad difrifol ar ddyn mewn parc yng Nghaerdydd
Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio i ymosodiad difrifol ar ddyn mewn parc yng Nghaerdydd ddydd Llun Tachwedd.
Roedd dyn 55 oed yn rhedeg yng Nghaeau Llandaf am tua 05.30 pan gafodd ei drywanu.
Nid yw ei anafiadau'n peryglu bywyd, ac fe gafodd ei ryddhau o'r ysbyty yn ddiweddarach yr un diwrnod.
Y gred yw mai dau ddyn oedd yn gwisgo dillad tywyll a balaclafas oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers o Heddlu De Cymru: “Yn ddealladwy, mae'r gymuned leol, a defnyddwyr y parc, yn bryderus am yr hyn sydd wedi digwydd.
“Mae'r cymhelliad yn parhau i fod yn anhysbys ac mae ymholiadau helaeth yn parhau tra ein bod yn sefydlu amgylchiadau'r digwyddiad hwn.
“Gwerthfawrogir cefnogaeth y gymuned yn fawr, ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon i gysylltu â'r heddlu.”
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500358170.
