Plant mewn Angen: Cwblhau her o ddawnsio'n ddi-stop am 24 awr
Mae dau o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Cymru wedi cwblhau her o ddawnsio'n ddi-stop am 24 awr er budd Plant mewn Angen.
Roedd Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford, sy'n gyflwynwyr ar S4C a BBC Radio Cymru, wedi penderfynu camu ar y llawr dawnsio ar gyfer her BBC Plant mewn Angen, a hynny am y tro cyntaf.
Mae'r ddau wedi bod yn dawnsio mewn stiwdio agored yn adeilad y BBC yng Nghaerdydd.
Fe ddechreuodd yr her am 11.00 fore Iau, ac mae nifer o westeion wedi bod yn ymweld â nhw yn y stiwdio wrth iddyn nhw ddawnsio am 24 awr.
Ymhlith y rheiny sydd wedi ymweld â’r pâr dros y diwrnod diwethaf y mae’r darlledwyr Caryl Parry Jones a Shân Cothi, y band Cordia, yn ogystal â chyd-aelod Emma Walford o’r band Eden, Non Parry.
Mae Trystan ac Emma hefyd wedi bod yn derbyn negeseuon o gymorth ers iddyn nhw gychwyn dawnsio – gan gynnwys negeseuon gan y cyflwynwyr adnabyddus Claudia Winkleman a Tess Daly, yn ogystal â chyn Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.
Fe wnaeth Tess a Claudia anfon neges o gymorth oddi ar lawr stiwdio Strictly Come Dancing, gan eu hannog i “barhau i ddawnsio!”
Dywedodd Mark Drakeford: “Mae dawnsio am 24 awr yn dipyn o her ond mae ‘da ni ffydd ynddo chi.”
Wedi iddyn nhw dderbyn ei neges yn oriau mân y bore, roedd Emma Walford i’w gweld yn ei dagrau a hithau wrth ei bodd â’r holl gymorth.
“Wel o’r holl negeseuon ‘da ‘ni di derbyn yn ystod faint o oriau ‘da ni ‘di bod wrthi, o’n i ddim yn sylweddoli mai Mark Drakeford fyse’n pwsiad Emma dros y dibyn,” medd Trystan.
“Nath hwnna olygu lot,” medd Emma.