Pentrefwyr yn Sir Gâr yn galw am atal gwaith adeiladu wedi pryderon am lifogydd
Mae pentrefwyr ym Mhorthyrhyd yn Sir Gâr wedi galw am atal gwaith adeiladu ar safle yn y pentref yn syth yn sgil pryderon am lifogydd.
Yn dilyn glaw trwm yr wythnos hon, fe gasglodd pwll mawr o ddŵr ar gaeau fferm Wern Fraith, ble mae cwmni Jones Henllan yn codi 42 o gartrefi newydd ar gyfer grŵp tai Pobl, ac mae yna bryder am ddŵr yn llifo lawr o'r safle i gyfeiriad y pentref.
Mae pwmp diwydiannol wedi bod yn symud dŵr o'r safle i mewn i nant gyfagos, tu ôl i nifer o gartrefi ym Mhorthyrhyd.
Dywedod un pentrefwr, Dylan Heddwyn Williams, wrth Newyddion S4C: "Ni wedi cael gaeaf gwlyb yn ddiweddar ers sawl blwyddyn ac mae hyn yn mynd yn waeth. Ble mae'r dŵr yma yn mynd i fynd?
"Pan fyddan nhw wedi adeiladu safle i fynd mewn at yr adeiladau ble mae'r dŵr yn mynd i fynd wedyn? Does yna ddim cynllun o gwbl. Dyw nhw ddim wedi rhoi dim ystyriaeth i'r pryderon."
"D'wi'n meddwl nawr bydd rhaid rhoi stop ar y datblygiad er mwyn i ni gael beth sydd yn digwydd gyda'r holl ddŵr yma sydd yn casglu yma. Mae'n berygl i'r pentrefwyr nawr, a does dim bricen yn gorwedd yma eto.
"Mae dau deulu yn rhoi eu tai ar werth ac yn symud mas oherwydd bod nhw'n poeni am y llifogydd a'r dŵr. Buon ni yn brwydro yn arw iawn yn erbyn y datblygiad hyn. Ond mae e wedi syrthio ar glustiau byddar cynghorwyr Sir Gaerfyrddin. Mae'r cynghorwyr wedi mynd o'r golwg a ni'n gorfod delio ag e."
Mae Carol Williams, sydd yn byw ym Mhorthyrhyd, hefyd yn bryderus.
"Wythnos ddiwethaf a'r wythnos cyn 'ny, roedd dŵr tu ôl y siop a'r Abadam Arms. Mae pobl yn rhoi tai for sale oherwydd hyn. Ni'n colli Cymry yn y pentref. Mae'r dŵr yn cael ei bwmpio o un man i'r llall yn lle edrych mewn iddo a gwneud y drainage iawn," meddai.
"Os mae e fel hyn nawr, os daw y 40 (o gartrefi), bydd hi'n lot waeth. Mae rhaid stopo fe ac edrych mewn i'r drainage yn gyntaf er mwyn parchu pobl sydd yma."
Mae Christopher Dufeu yn byw gyferbyn â'r safle adeiladu, ac mae wedi gweld dŵr yn cronni yn ei ardd yn dilyn y glaw trwm.
"Ry'ni ni wedi bod ym Mhorthyrhyd ers 11 mlynedd ac erioed wedi gweld llifogydd fel hyn ar ein tir. Ers iddyn nhw ddechrau gwaith ar y safle, mae llawer mwy o ddŵr i'w weld yma," meddai.
"Dwi'n poeni am ddifrod i'r tŷ. Mae yna graciau yn y welydd ar flaen y tŷ. Maen nhw yn pwmpio dŵr o'r safle lawr i'r gwaelod, ond mae hynny yn symud y broblem. Mae'n rhaid i ni gael datrysiad i hyn."
Cafodd y datblygiad ei ganiatáu gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin ym mis Ebrill 2024 er gwaethaf gwrthwynebiad lleol ffyrnig, gyda nifer o bobl yn codi pryderon am lifogydd a gallu'r rhwydwaith garthffosiaeth i ymdopi gyda'r cartrefi newydd.
Fe wrthwynebwyd y cais gan Gyngor Cymuned Llanddarog, a wnaeth ddweud bod y safle yn dioddef llifogydd, a bod y rhwydwaith garthffosiaeth yn "annigonol."
Dywedodd adroddiad cynllunio'r Cyngor Sir ar y pryd bod strategaeth ddraenio'r cais yn golygu bod modd gwaredu dŵr o'r wyneb mewn ffordd "gynaliadwy ac o dan reolaeth."
Yn ôl yr adroddiad, doedd gan Dŵr Cymru "ddim pryderon" ynglyn ag effaith y datblygiad ar ei rhwydwaith.
Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru bod llifogydd a dŵr ar yr wyneb yn fater i'r awdurdod lleol, a na fydd y dŵr yma yn mynd i'w rhwydwaith. Mae Dŵr Cymru wedi bod yn darparu tanceri i symud dŵr storm o'r rhwydwaith ym Mhorthyrhyd yn ystod cyfnodau o law trwm, rhywbeth sydd yn digwydd mewn sawl lleoliad yn ystod tywydd gwlyb.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr: "Mae’r safle tu allan i’r gorlifdir, a does yna ddim caniatâd ar gyfer tai mewn ardal sydd dan fygythiad o lifogydd. Mae’r pwll o ddŵr yn fater hanesyddol sydd yn deillio o iseldir naturiol ble mae dŵr yn casglu.
"Bydd yna ddim dŵr o’r wyneb yn mynd i’r system garthffosiaeth. Fe fydd dŵr o’r wyneb yn cael ei reoli fel rhan o’r datblygiad. Mae rheoli dŵr o’r wyneb yn ystod y broses adeiladu yn rhan o’r amodau cynllunio, a dylid cyflwyno unrhyw bryderon ynghylch y materion hyn i’r adran gynllunio. Mae unrhyw gwynion am ddifrod i eiddo preifat yn sgil y datblygiad yn fater sifil rhwng y perchennog a’r datblygwr a dyw’r awdurdod ddim yn medru ymyrryd mewn materion sifil.”
Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Pobl fod cynrychiolwyr wedi ail-ymweld â'r datblygiad ddydd Iau i adolygu'r mesurau draenio dros dro er mwyn amddiffyn eiddo cyfagos.
"Gallwn gadarnhau fod y mesurau hyn hefyd yn dilyn yr un llwybr â'r strategaeth ddraenio a gafodd ei chymeradwyo, gan arwain dŵr i sianel beirianyddol ar ffin ogleddol y safle a'i ollwng i'r cwrs dŵr cyfagos tua 50 metr i lawr yr afon o'r cartrefi agosaf presennol," meddai'r llefarydd.
"Yn ystod ein hymchwiliad, roedd lefelau dŵr ar y salfe wedi gostwng yn sylweddol, gan ddangos fod y system yn gweithredu yn effeithiol ac nid yw'n cael effaith negyddol ar eiddo cyfagos."
Mae cwmni adeiladu Jones Henllan wedi cael cais am ymateb.