Carcharu gyrrwr tacsi o Gaerdydd am ymosod ar ddwy fenyw
Mae gyrrwr tacsi o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am ymosod ar ddwy fenyw yn y brifddinas.
Fe gafodd Amanuele Mebrahtu o Canton ei adnabod yn dilyn chwilio helaeth ar CCTV ac ap ar ei ffôn, a oedd yn cael ei ddefnyddio ganddo ar gyfer ei wasanaethau tacsi.
Er gwaethaf tystiolaeth fforensig, fe wnaeth Mebrahtu barhau i wadu bod yn gyfrifol am yr ymosodiadau a ddigwyddodd ym mis Hydref a Rhagfyr 2024.
Fe wnaeth y gyrrwr ymosod yn rhywiol ar deithiwr ar ôl ei gyrru i'w chartref a gofyn iddi ei chofleidio.
Fe wnaeth hefyd ymosod yn rhywiol ar fenyw arall ar ôl cynnig 'piggyback' iddi i lawr grisiau.
Fe'i cafwyd yn euog yn Llys y Goron Casnewydd ac fe gafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd a thri mis yn y carchar, gyda chyfnod estynedig o dair blynedd ar drwydded.
Mae hefyd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Shane Coombes o Heddlu De Cymru: "Hoffwn ganmol y dioddefwyr am eu dewrder wrth ddod ymlaen, rhannu’r hyn a ddigwyddodd, a chefnogi’r ymchwiliad.
"Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt fod y troseddwr wedi wynebu cyfiawnder a bod eu dewrder wedi helpu i amddiffyn y cyhoedd rhag niwed."
