Storm Claudia: Rhybudd oren am lifogydd ‘allai beryglu bywyd’ ddydd Gwener

Rhybudd tywydd oren

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am law a llifogydd i rannau o Gymru ddydd Gwener.

Mae yna ddau rybudd oren yn effeithio ar Gymru ddydd Gwener a dau rybudd melyn.

Mae un rhybudd oren yn berthnasol i siroedd Sir Fynwy a Phowys rhwng hanner dydd a hanner nos ddydd Gwener.

Mae ail rybudd oren i Flaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen yn ystod yr un cyfnod.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am lifogydd a “allai beryglu bywyd,” difrod i adeiladau, a llifogydd ar y ffyrdd.

Mae’r rhybudd melyn cyntaf am wynt yn berthnasol i siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Ceredigion a Phowys, sydd hefyd yn berthnasol rhwng hanner dydd a hanner nos dydd Gwener.

Mae ail rybudd melyn am law rhwng 06:00 ddydd Gwener a 06:00 ddydd Sadwrn yn berthnasol i bob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn, Ceredigion a Sir Benfro.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd Storm Claudia, sydd wedi ei henwi gan Wasanaeth Meteorolegol Sbaen, yn dod â glaw a fydd yn parhau ac yn drwm yn ystod dydd Gwener. 

“Mae disgwyl 40-60 mm o law gyda rhai mannau yn gweld tua 80 mm,” meddai.

“Mae disgwyl rhagor o law ar draws Dwyrain Canolbarth Lloegr, a thir uwch yng Nghymru a gorllewin Lloegr. 

“Gall y tywydd gael ei waethygu gan wyntoedd dwyreiniol cryf, yn ogystal â stormydd mellt a tharanau yn ddiweddarach yn y prynhawn a gyda'r nos ddydd Gwener.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.