Cwest: Tad a mab o Gaerffili wedi boddi ar ôl cael eu hysgubo allan i'r môr yn Awstralia
Mae cwest wedi clywed bod tad a mab o Gaerffili wedi boddi ar ôl cael eu hysgubo allan i'r môr tra ar wyliau yn Awstralia.
Roedd Robin Reed, 46, a'i fab Owen, 17, wedi ymweld â thraeth yn nhref Seventeen Seventy yn nhalaith Queensland ar 13 Ebrill.
Clywodd Llys y Crwner Gwent ddydd Mercher fod Owen wedi bod yn nofio mewn dŵr a oedd hyd at uchder ei wast gyda phlant eraill pan waethygodd yr amodau'n sydyn a chafodd ei ysgubo allan i'r môr.
Fe aeth Mr Reed i mewn i'r dŵr ar unwaith i geisio achub ei fab, ynghyd â dyn o'r enw Michael Evans, ond fe gawson nhw drafferthion hefyd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad ac yn ddiweddarach cafodd cyrff Mr Reed ac Owen eu tynnu o'r môr.
Cadarnhawyd bod y ddau wedi marw trwy foddi.
Cwest
Daeth Rose Farmer, crwner ardal Gwent, i’r casgliad bod Mr Reed ac Owen wedi marw drwy ddamwain.
"Ar 13 Ebrill 2025, roedd Owen a Robin Reed gydag aelodau o’u teulu, ynghyd â Mr Evans, yn ymweld â Seventeen Seventy," meddai.
"Doedden nhw ddim wedi bod yno o’r blaen ac ni welson nhw unrhyw arwyddion rhybuddio.
"Fe aeth Owen, gydag aelodau eraill o’r teulu, i’r dŵr ac roedd yn ymddangos yn llonydd ger y lan.
"Ond gwaethygodd yr amodau a heb rybudd, cafodd ei ysgubo i ffwrdd yn sydyn gan y dŵr."
Fe aeth ymlaen i ddweud bod ei dad, Mr Reed, a Michael wedi mynd i mewn i'r dŵr i geisio ei helpu.
"Cafodd Michael ei dynnu o’r dŵr gyda chymorth eraill, ond ni ellid gweld Robin ac Owen ddim mwy," meddai.
"Cysylltwyd â’r gwasanaethau brys a mynychodd yr heddlu, y gwasanaethau ambiwlans, y gwasanaethau tân a'r hofrennydd i chwilio am Robin ac Owen.
"Tua 16.00, cafodd corff Owen ei olchi i’r lan a cyhoeddwyd ei fod wedi marw am 16.15.
"Am 16.30, fe wnaeth y rhai yn yr hofrennydd weld Robin. Cyhoeddwyd ei fod wedi marw am 16.45."
'Dim arwyddion o gwbl'
Dywedodd y crwner fod Mr Reed wedi marw "o effeithiau boddi wrth geisio achub ei fab a oedd wedi mynd i drafferthion yn y môr".
Cofnododd Ms Farmer fod Owen wedi marw "o effeithiau boddi pan waethygodd amodau’r môr a chafodd ei ysgubo allan i’r môr".
Clywodd y cwest sut yr oedd y teulu Reed wedi hedfan i Brisbane ar 10 Ebrill i ymweld â Michael a Shayane Evans a’u plant.
Disgrifiodd Mrs Evans sut y gwnaethon nhw deithio i Seventeen Seventy ar 13 Ebrill, gan gyrraedd y maes parcio cyn cerdded i lawr llwybr i’r traeth.
"Doedd dim arwyddion o gwbl," meddai. " Wnes i ddim gweld unrhyw arwyddion ‘dim nofio’ nac arwyddion yn dweud na allech chi fynd i lawr y llwybr."
Fe aeth Mr Reed, Mr Evans a'r plant yn syth i'r dŵr cyn dod allan tua 10 munud yn ddiweddarach i fynd i byllau creigiog ar y traeth.
Yna dychwelodd Owen a dau blentyn arall i'r môr, gyda'r dŵr yn cyrraedd uchder ei wast, meddai Mrs Evans.
"Dydw i ddim yn siŵr os oedd ton wedi ei daro ac achosi iddo golli ei falans, ond gallwn weld Owen yn dechrau mynd gyda'r llif," meddai.
"Dim ond ychydig fetrau oedd o i ffwrdd o'r creigiau wrth iddo gael ei ysgubo allan."
Gwaeddodd Mrs Evans ar ei gŵr, a redodd yn syth i'r dŵr ynghyd â Mr Reed.
Disgrifiodd Mr Evans y profiad o fynd i mewn i'r dŵr gyda Mr Reed i achub Owen.
"Roedd y dŵr yn teimlo fel bws yn fy nharo," meddai.
"Roedd yn arw ac yn fy nghodi. Roedd yn rhy arw i nofio ynddo. Roedd ton ar ôl ton yn rholio yn y dŵr."
Clywodd y cwest fod Mr Evans wedi mynd yn sownd rhwng creigiau ac wedi cael ei achub gan dwristiaid.