Mudiad iaith yn honni bod Comisiynydd y Gymraeg wedi 'colli ei ffordd'
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Comisiynydd y Gymraeg gan ddadlau ei bod wedi “colli ei ffordd.”
Mae’r mudiad yn dweud bod sawl methiant wedi bod o dan arweiniad Efa Gruffydd Jones.
Yn ôl y mudiad, mae nifer y cwynion sy’n destun ymchwiliad ar ei ganran isaf erioed, ac wedi disgyn o 63% yn 2021-22 i 26% yn 2024-25.
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn honni bod Comisiynydd y Gymraeg yn cuddio gwybodaeth a fyddai fel arall wedi ei wneud yn gyhoeddus yn y gorffennol.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud nad yw am "ymddiheuro am weithio yn fwy strategol" a cheisio cael y "datrysiad gorau ar gyfer siaradwyr Cymraeg".
Mae'r mudiad wedi mynegi eu pryderon mewn dogfennau at Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd cyn i sesiwn i graffu ar waith y Comisiynydd ddigwydd yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Dywedodd Aled ap Robert, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith bod Ms Gruffydd yn benderfynol o droi’r corff yn un a fydd yn bennaf yn hyrwyddo’r Gymraeg “mewn ffordd feddal.”
Mae’n honni ei bod yn ceisio gweithredu drwy’r “drws cefn” drwy gyflwyno deddfwriaeth newydd, sydd mewn gwirionedd yn hen gynlluniau Llywodraeth Cymru a gafodd eu gwrthwynebu.
“Allwn ni ddim bod â ffydd mewn Comisiynydd sy’n ymddwyn felly,” meddai.
'Dwi ddim am ymddiheuro'
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud ei bod yn croesawu unrhyw graffu ar ei gwaith "ac yn barod i gael fy herio" ddydd Mercher.
“Dwi ddim am ymddiheuro am weithio yn fwy strategol a meddwl sut mae cael y datrysiad gorau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, a chyfeirio ein hadnoddau at wneud hynny – rwyf wedi bod yn hollol agored a thryloyw wrth wneud hynny," meddai.
“Rwyf hefyd wedi bod yn hollol agored yn nodi fy nyheadau i ehangu cwmpas y Safonau i gynnwys cyrff y Goron, yn ogystal â’r sefydliadau a’r sectorau eraill sydd eisoes wedi’u henwi yn y Mesur. Mae’r galwadau yma yn amlwg iawn yn ein maniffesto.
“Fel sefydliad cyhoeddus, rwy’n atebol i Senedd Cymru drwy adroddiadau blynyddol ac mae fy ngwaith yn destun craffu gan bwyllgorau’r Senedd.
"Rwy’n falch o gael cyflwyno fy nhystiolaeth i bwyllgor y Senedd heddiw ac yn benderfynol o weithredu yn gadarn, yn deg ac yn dryloyw er budd y Gymraeg a’i siaradwyr.”
'Colli golwg'
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn cwestiynu'r modd y mae'r Comisiynydd yn gweithredu, gan ddweud ei bod yn “gwrthod herio” Llywodraeth Cymru i ymestyn hawliau iaith i sectorau eraill, a'i bod yn “sgandal” iddi symud ei swyddfa i bencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd.
Mae'r mudiad yn dweud eu bod yn gweithredu wedi i Ms Gruffydd fabwysiadu Cynllun Strategol newydd eleni sy’n rhoi “llawer llai o bwyslais ar hawliau iaith.”
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod trywydd y Cynllun yn groes i’r ddeddfwriaeth a basiwyd yn 2011 wrth sefydlu swydd y Comisiynydd. Mae’r ddeddf honno’n datgan mai drwy orfodi’r Safonau ar gyrff y mae hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael eu creu, meddai'r mudiad.
“Ers cael ei phenodi, mae’r Comisiynydd wedi dilyn agenda sy’n tanseilio’r ddeddfwriaeth, ac yn ceisio gweithredu dymuniadau rhai yn y gwasanaeth sifil sydd eisiau blaenoriaethu buddiannau cyrff fel nhw’u hunain yn lle hawliau iaith pobl,” medd Mr ap Robert.
“Mae hi wedi colli golwg ar ei swyddogaeth graidd fel rheoleiddiwr annibynnol dros y Gymraeg ac eiriolwr dros hawliau siaradwyr Cymraeg.
"Effaith ymarferol y cyfeiriad yma gan Efa Gruffydd Jones yw nad oes sicrwydd y bydd plant Cymru'n gallu cael gwersi nofio yn Gymraeg ac nad oes dim canlyniadau i wasanaeth carchar sy'n gwahardd carcharorion bregus rhag siarad Cymraeg gyda'i gilydd.
“Mae'r Comisiynydd yn rhoi'r cyfrifoldeb yn gynyddol ar bobl gyffredin i ‘ddefnyddio’ eu Cymraeg er bod y gwasanaethau yn aml ddim ar gael, tra bod cwmnïau ariannog sy’n darparu gwasanaethau hanfodol fel nwy a thrydan, ffonau a gwasanaethau post, yn cael rhwydd hynt i barhau i anwybyddu anghenion siaradwyr Cymraeg bymtheg mlynedd ers i lywodraeth y dydd addo y byddai Safonau'n cael eu gosod arnynt."
