'Risg i'r Gymraeg' pe bai ardal o Wynedd wedi'i chynnwys mewn parc cenedlaethol newydd

Llandderfel

Mae Cyngor Gwynedd wedi codi pryderon am "risg i'r iaith Gymraeg" pe bai rhan o'r sir yn cael ei chynnwys mewn parc cenedlaethol newydd.

Cododd y cyngor bryderon am Barc Cenedlaethol Glyndŵr, sydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd.

Byddai'r parc cenedlaethol yn ymestyn o Brestatyn yn Sir Ddinbych hyd at Sir y Fflint, Wrecsam, gogledd Powys a rhan o Wynedd.

Er mai pentref Llandderfel ger Y Bala fyddai'r unig ran o'r sir fyddai yn rhan o'r parc cenedlaethol, mae Cyngor Gwynedd wedi codi pryderon am sut y gallai gosod y pentref o fewn ffiniau parc cenedlaethol gael effaith ar y Gymraeg.

Cyn i'r cabinet drafod yr ymgynghoriad i greu parc cenedlaethol ddydd Mawrth mae'r cyngor yn dweud y gallai creu parc cenedlaethol "achosi risg o wanhau’r ffocws ar ystyriaethau Cymreig mewn cynllunio a pholisi.

"Gallai hyn gael effaith negyddol ar statws yr iaith a’i defnydd bob dydd mewn ardal lle mae’n ffynnu ar hyn o bryd."

Mae'r Cyngor yn amcangyfrif bod 528 o bobl yn byw yn Llandderfel, gyda thua 65% yn siarad Cymraeg.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod wedi "cynnal asesiad effaith ar yr iaith Gymraeg" a bod hynny yn datgan "na fydd dynodi Parc Cenedlaethol newydd yn debygol o gael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg, effeithio ar y defnydd o'r Gymraeg, na thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg."

Erthygl 4

Pe bai'r parc cenedlaethol newydd yn cael ei greu, yna fe fyddai yna ddisgwyl i benderfyniadau greu polisi a phenderfynu ar geisiadau cynllunio fod yn rhan o gyfrifoldeb y parc cenedlaethol newydd.

Dyma sydd yn digwydd mewn rhannau o Wynedd ar hyn o bryd wedi i bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gymeradwyo rheol sydd yn ei gwneud yn orfodol i sicrhau caniatâd cynllunio cyn gallu troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau o fewn ardal y parc yn y dyfodol. 

Mae'r rheol yn cael ei adnabod fel Erthygl 4, ac mae wedi bod yn ei le yn ardal y parc cenedlaethol ers 1 Mehefin.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn codi pryderon am sawl mater arall, gan gynnwys effaith ar brisiau tai, yr economi wledig a llywodraethant y parc newydd.

Parc Glyndŵr fyddai'r pedwerydd parc cenedlaethol yng Nghymru, a'r cyntaf i'w sefydlu ers 1957.

Nid Cyngor Gwynedd yw'r unig gyngor i godi pryderon wedi i Gyngor Sir Ddinbych wrthod cefnogi sefydlu parc o'r fath yn gynharach eleni.

Bydd yr ymgynghoriad ar sefydlu'r parc cenedlaethol newydd yn dod i ben ar 8 Rhagfyr.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.