Caerdydd: Dyn yn yr ysbyty wedi 'ymosodiad difrifol' mewn parc poblogaidd
Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau trywanu yn dilyn adroddiad o "ymosodiad difrifol" yng Nghaerdydd.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n credu i'r ymosodiad ddigwydd yng Nghaeau Llandaf yn y brifddinas am tua 05.30 fore Llun.
Mae dyn 55 oed yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl iddo ddioddef anafiadau trywanu.
Nid yw'r anafiadau yn cael eu disgrifio fel rhai sy'n newid ei fywyd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers o Heddlu'r De bod y digwyddiad yn un ynysig.
"Yn ddealladwy, bydd y gymuned leol, a defnyddwyr y parc, yn bryderus am yr hyn sydd wedi digwydd," meddai.
"Mae'n ddigwyddiad ynysig, ac nid yw’r cymhelliad yn hysbys ar hyn o bryd."
Fe aeth ymlaen i ddweud bod yr heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am dystion.
"Mae ymholiadau helaeth yn parhau a bydd mwy o bresenoldeb heddlu yn yr ardal tra byddwn yn sefydlu amgylchiadau’r digwyddiad yma," meddai.
"Mae cefnogaeth y gymuned yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr, ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon i gysylltu â’r heddlu."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500358170.
