Cadarnhau achos o'r ffliw adar ym Mhowys

Ffliw adar

Mae achos newydd o’r ffliw adar wedi ei gadarnhau ger Y Trallwng ym Mhowys. 

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DU nos Sul bod ffliw adar pathogenig iawn H5N1 wedi ei gadarnhau yn yr ardal. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod wedi ei gofnodi ar safle masnachol yno. 

Mae parth gwarchod 3km a pharth gwyliadwriaeth 10km bellach wedi'u sefydlu o amgylch y safle heintiedig er mwyn ceisio atal y ffliw rhag lledaenu.

Daw ychydig ddyddiau yn unig ar ôl i Gyngor Gwynedd ddweud bod ffliw adar wedi'i gadarnhau mewn aderyn yn Llanberis yng Ngwynedd.

Fe ddywedodd yr awdurdod bod o leiaf un achos o’r ffliw yn ymwneud ag aderyn ar Lyn Padarn.

Mae Llywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn annog pobl sy’n cadw adar i fod yn “wyliadwrus.”

Maent yn annog y rheiny i lynu at fesurau bioddiogelwch er mwyn atal yr haint rhag lledaenu. 

Y cyngor yw y dylai unrhyw un sy’n amau fod eu hadar wedi eu heintio cysylltu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.