Cymru'n colli drwm i'r Ariannin yng Nghaerdydd
Mae Cymru wedi colli'n drwm yn erbyn yr Ariannin yn y gêm gyntaf o bedair ryngwladol yng nghyfres yr hydref yng Nghaerdydd.
Dyma'r tro cyntaf i'r gwledydd gwrdd ers i'r Ariannin guro Cymru o 29-17 yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc yn 2023.
Dyma'r gêm gyntaf i Steve Tandy fel prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol oedd yn cael eu harwain gan y blaenasgellwr Jac Morgan.
Cyn y gêm cafwyd dau funud o dawelwch gan y dorf a'r chwaraewyr ar gyfer Sul y Cofio.
Roedd Cymru dan y lach yn gynnar yn y gêm gan ildio'r bêl a thiriogaeth i'r ymwelwyr.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1987566257730707680?s=20
Cafodd ail reng Cymru Dafydd Jenkins ei gosbi am gamsefyll yn 22 Cymru ac fe sgoriodd prop pen tynn Yr Ariannin Pedro Delgado yn dilyn chwarae grymus gan y blaenwyr o'r lein. Fe drosodd y cefnwr Santiago Carreras. Cymru 0-7 Yr Ariannin ar ôl saith munud.
Aeth Yr Ariannin ymhellach ar y blaen ddwy funud yn ddiweddarach gyda'r maswr Gerónimo Prisciantelli yn croesi ar ôl ymosodiad yn dilyn cic uchel gan Gymru.
Gyda Carreras yn trosi eto roedd yr ymwelwyr 0-14 ar y blaen.
Ond d'oedd Cymru ddim am ildio mor gynnar yn y gêm ac fe daro nhw yn ôl gyda'r mewnwr Tomos Williams yn sgorio cais cyntaf goruchwyliaeth Steve Tandy yn dilyn gwrthymosodiad pwrpasol gan olwyr Cymru.
Fe drosodd y maswr Dan Edwards o flaen y pyst. Cymru 7-14 Yr Ariannin.
Roedd hyn yn hwb i Gymru a'r dorf a daeth llwyddiant i Gymru ar ôl 20 munud wrth i'r tîm cartref wrth-ymosod eto.
Fe benderfynodd Cymru redeg cic gosb yn agos at y llinell gais a doedd dim modd i rwystro rhuthr y bachwr Dewi Lake wrth iddo groesi am gais ar ôl i Gymru amrywio pwynt eu hymosodiadau. Gyda Dan Edwards yn trosi roedd y sgôr bellach yn gyfartal 14-14.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4CRygbi/status/1987567866095321438?s=20
Daeth ergyd i Gymru ar ôl 27 munud pan dderbyniodd y canolwr Ben Thomas gerdyn melyn am anelu ei droed at chwaraewr Yr Ariannin wrth iddo geisio rhyddhau ei hun o dacl.
Aeth Yr Ariannin ar y blaen unwaith yn rhagor gyda chic gosb gan Carreras ar ôl i Tomos Williams gamsefyll o amgylch ryc. Cymru 14-17 Yr Ariannin.
Fe gymrodd Yr Ariannin fantais o ddiffyg disgyblaeth Cymru gyda'r mewnwr Simón Benítez Cruz yn elwa o waith grymus ei flaenwyr unwaith yn rhagor i groesi o dan y pyst. Trosiad gan Carerras, Cymru 14-24 Yr Ariannin.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru o'r ail gychwyn wrth i'r Ariannin wrth ymosod gyda'r asgellwr Mateo Carreras yn croesi. Trosiad arall gan Santiago Carreras. Cymru 14-31 ar yr egwyl.
Diffyg disgyblaeth
Roedd yn bwysig i Gymru sgorio'n gyntaf yn yr ail hanner os am unrhyw obaith o daro nôl. Ond y gwrthwyneb a ddigwyddodd gyda'r asgellwr Bautista Delguy yn croesi am gais i'r Ariannin ar ôl 43 munud, gyda Carreras yn trosi.
Daeth ergyd ddwbl ar yr un pryd i Gymru wrth i Tomos Williams dderbyn cerdyn melyn am daclo chwaraewr heb y bêl yn y symudiad arweiniodd at y cais. Cymry 14-28 Yr Ariannin.
Daeth llygedyn o obaith i Gymru wrth i'r capten Jac Morgan gymryd cic gosb yn gyflym i groesi dan y pyst. Fe drosodd Edwards. Cymru 21- 38.
Ond roedd hyn yn ddigwyddiad chwerw felys i Gymru wrth i Morgan orfod gadael y cae ar ôl iddo ddioddef anaf i'w arddwrn wrth sgorio.
Roedd yr asgellwr Louis Rees-Zammit wedi dod i'r cae fel eilydd ac fe ddaeth y dorf ar eu traed pan gafodd ei gyffyrddiad cyntaf ar hyd yr ystlys ond fe aeth y bêl ymlaen o'i ddwylo cyn i Murray gasglu'r bêl a chroesi'r llinell gais.
Roedd popeth yn mynd yn erbyn Cymru ac fe sgoriodd Yr Ariannin eto wrth i Prisciantelli ryng-gipio ymdrech Cymru i redeg o'r 22. Fe drosodd Carreras am y chweched tro. Cymru 21-45 Yr Ariannin.
Fe wrthododd Cymru i ildio ac fe groesodd Murray am gais yn dilyn gwaith arweiniol da gan y blaenwyr. Fe drosodd yr eilydd Jarrod Evans. Cymru 28-45 Yr Ariannin.
Daeth seithfed cais i'r Ariannin i'r eilydd Grondona i gloriannu perfformiad arbennig i'r ymwelwyr.
Y sgôr terfynol: Cymru 28-52 Yr Ariannin.
Fe fydd Cymru nawr yn chwarae yn erbyn Japan ar 15 Tachwedd, Seland Newydd ar 22 Tachwedd cyn y gêm olaf yn erbyn Pencampwyr y Byd, De Affrica, ar ddydd Sadwrn 29 Tachwedd.
Llun: Asiantaeth Huw Evans