Cymru Premier JD: Bae Colwyn yn herio Llanelli
Erbyn nos Sadwrn fe fyddwn ni wedi cyrraedd hanner ffordd drwy’r tymor yn y Cymru Premier JD ac mae ‘na olwg cyfarwydd ar y tabl gyda’r Seintiau Newydd yn eistedd yn gyfforddus ar y copa.
Er hynny, mae’n addo i fod yn ras gyffrous am yr ail safle eto eleni, gyda Phen-y-bont, Caernarfon a Chei Connah yn cystadlu am yr ail docyn i Ewrop.
Yn y ras am y Chwech Uchaf, dim ond triphwynt sy’n gwahanu’r pedwar clwb rhwng y 5ed a’r 8fed safle, sef Bae Colwyn, Y Barri, Y Bala a Met Caerdydd.
A thua’r gwaelod, mae’n edrych yn llwm ar Lanelli sydd wedi colli pum gêm gynghrair yn olynol, ond mae’n dynn eithriadol rhwng Hwlffordd, Llansawel a’r Fflint yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae'r Seintiau Newydd yn dal ar frig y tabl er iddyn nhw golli gartref o 2-3 yn erbyn Met Caerdydd nos Wener.
Mae Llansawel wedi codi i'r 9fed safle ar ôl iddyn nhw guro'r Bala o 2-0 nos Wener.
Dydd Sadwrn
Bae Colwyn (5ed) v Llanelli (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n noson hunllefus i Fae Colwyn nos Sadwrn diwethaf wrth i’r Gwylanod gael eu llosgi’n grimp gan ddreigiau’r Barri a fanteisiodd ar sawl camgymeriad amddiffynnol i drechu tîm Michael Wilde o 4-1 ar eu tomen eu hunain.
Ar ôl cyflwyno gôl ar blât i Ieuan Owen, fe aeth noson y capten Lewis Sirrell o ddrwg i waeth pan gafodd ei hel o’r maes am dacl beryglus ar Owen, sef ail gerdyn coch Bae Colwyn mewn dwy gêm.
Bydd angen i Fae Colwyn fod yn fwy disgbygledig felly os am sicrhau chwe phwynt yn erbyn dau glwb isaf y tabl yn eu dwy gêm nesaf (Llanelli a Hwlffordd).
Bae Colwyn a Llanelli oedd y ddau glwb i esgyn o’r ail haen dros yr haf, ac mae gan y Gwylanod deirgwaith nifer y pwyntiau sydd gan Llanelli, gyda’r Cochion ar waelod y tabl ar ôl casglu dim ond saith pwynt o’u 15 gêm hyd yma.
Daeth y cyntaf o’r pwyntiau rheiny yn y gêm ddi-sgôr yn erbyn Bae Colwyn ym mis Medi wedi i Louis Robles fethu cic o’r smotyn i’r Gwylanod.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅✅➖✅❌
Llanelli: ❌❌❌❌❌
Caernarfon (3ydd) v Hwlffordd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Caernarfon yn parhau’n dynn ar sodlau Pen-y-bont yn y ras am yr ail safle ar ôl i’r Cofis ennill eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf.
Bydd y cyfnod yma yn un allweddol yn nhymor Caernarfon gan eu bod yn wynebu’r tri clwb isaf yn y tabl, ac ar ôl curo Llansawel (10fed) y penwythnos diwethaf bydd Richard Davies yn disgwyl dim llai na chwe phwynt o’u gemau nesaf yn erbyn Hwlffordd (11eg) a Llanelli (12fed).
Llwyddodd Hwlffordd i orffen yn 3ydd y tymor diwethaf, ac yna chamu i Ewrop ar ôl curo Caernarfon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle, ond dyw pethau heb fynd mor esmwyth i Tony Pennock a’r tîm y tymor hwn.
Dyw’r Adar Gleision yn sicr heb fod ar eu gorau oddi cartref gan iddyn nhw ennill dim ond unwaith mewn chwe gêm gynghrair (0-1 vs Llansawel) a chasglu dim ond pedwar pwynt o’r 18 posib.
Ond mae Hwlffordd ar rediad gwych o naw gêm heb golli yn erbyn Caernarfon (ennill 3, cyfartal 6) gyda’r gêm gyfatebol ym mis Awst yn gorffen yn gyfartal 1-1 ar Ddôl y Bont.
Bydd y ddau dîm yn gobeithio am ymateb sydyn ar ôl colli yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth (YSN 3-0 Cfon, Hwl 0-2 Barr).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏❌❌➖✅✅
Hwlffordd: ✅❌✅➖❌
Y Barri (6ed) v Y Fflint (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Er ennill dim ond pedair o’u 15 gêm gynghrair y tymor hwn (27%), mae’r Barri’n dechrau’r penwythnos yn y Chwech Uchaf.
Does neb wedi cael mwy o gemau cyfartal na thîm Steve Jenkins y tymor yma (7), a dyw’r Dreigiau m’ond wedi ennill un o’u saith gêm gartref yn y gynghrair (4-0 vs Bala).
Mae’r Barri yn mwynhau cyfnod cadarnhaol gan eu bod ar rediad o bum gêm heb golli yn dilyn eu buddugoliaeth o 2-0 oddi cartref yn erbyn Hwlffordd yng Nghwpan Nathaniel MG nos Fawrth.
Fel Y Barri, dyw’r Fflint m’ond wedi ennill pedair gêm gynghrair, ond mae tîm Lee Fowler wedi colli wyth o’u 14 gêm hyd yma gan ildio gormod o goliau (2.4 gôl y gêm), a dim ond Llanelli sydd â record amddiffynnol waeth (2.8 gôl y gêm).
Efallai bod yr amddiffyn yn llac, ond mae’r ymosodwyr wedi bod yn tanio’n Y Fflint gan mae dim ond Y Seintiau Newydd (46) a Chaernarfon (36) sydd wedi sgorio mwy na’r Sidanwyr (27).
Er hynny, di-sgôr oedd hi’n yr ornest gyfatebol ym mis Medi gyda Josh Jones yn methu cic o’r smotyn i’r Fflint ym munudau ola’r gêm ar Gae y Castell.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌➖➖✅
Y Fflint: ❌❌✅❌❌
Cei Connah (4ydd) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Ar ôl dechrau heriol i’w gyfnod fel rheolwr newydd Cei Connah, mae’r canlyniadau wedi gwella’n sylweddol i John Disney yn ddiweddar gyda’r Nomadiaid bellach ar rediad o saith gêm heb golli.
Gyda’r Seintiau’n ffefrynnau clir i gipio’r bencampwriaeth unwaith eto, mae sylw pennaf dilynwyr y gynghrair yn troi at y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop.
Mae Cei Connah wedi sgorio tair gôl ym mhob un o’u chwe gêm ddiwethaf a dyw dynion Disney bellach ond bedwar pwynt y tu ôl i Pen-y-bont (2il) gyda gêm wrth gefn.
Pen-y-bont gipiodd yr ail safle y tymor diwethaf gan orffen yn eu safle uchaf erioed, a bydd Rhys Griffiths a’i garfan yn awyddus i ail-adrodd y gamp eleni.
Enillodd Pen-y-bont o 4-3 oddi cartref mew gêm ddramatig yn erbyn Y Fflint ddydd Sadwrn diwethaf, a bydd y Gleision yn gobeithio gadael Cae y Castell gyda’r triphwynt unwaith eto’r penwythnos hwn.
31 pwynt ydi’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai buddugoliaeth i Ben-y-bont yn eu codi dros y trothwy hwnnw ddydd Sadwrn.
Mae’r bedair gêm ddiwethaf rhwng y clybiau wedi gorffen yn 1-0 gyda Cei Connah yn ennill ddwywaith a Pen-y-bont yn ennill ddwywaith, a’r Nomadiaid oedd yn fuddugol yn yr ornest gyfatebol yn Stadiwm Dragonbet ym mis Awst diolch i gôl lwcus Rhys Hughes.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅➖✅
Pen-y-bont: ͏➖✅❌❌✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.
