'Dim ffordd o ennill': Blwyddyn wael i raddedigion sy'n chwilio am waith

Elin Owen

Eleni yw'r flwyddyn waethaf ar gyfer y nifer o raddedigion sy'n llwyddo i gael eu cyflogi, yn ôl arolwg newydd.

Roedd gostyngiad o 8% yn y nifer o raddedigion a gyflogwyd yn 2025 o gymharu â llynedd, yn ôl yr Arolwg Recriwtio Myfyrwyr 2025 gan Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE),

Dyma'r gyfradd isaf o gyflogaeth i raddedigion ers gostyngiad o 12% yn ystod cyfnod y pandemig yn 2020.

Graddiodd Elin Owen o Brifysgol Caerdydd eleni, ac wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd ei bod hi wedi bod yn chwilio am swyddi ers mis Ionawr, hyd yn oed rhai tu allan i'w maes dymunol. 

Erbyn hyn, mae Elin yn aros i glywed nôl gan 27 o gyflogwyr, i wybod os yw unrhyw un o'i cheisiadau diweddar wedi llwyddo.

"Dwi 'di trio am swyddi fel gweithio mewn siopau, ond maen nhw'n dweud bo fi'n gor-gymwys, ond wedyn gyda swyddi yn y maes dwi ishe’i wneud, maen nhw'n dweud bod dim digon o brofiadau gen i. 

"Felly does dim ffordd o ennill rwy'n teimlo."

Mwy o gystadleuaeth

Yn ôl yr Arolwg Recriwtio Myfyrwyr, o'r 155 o gyflogwyr mawr a gymerodd rhan, derbyniwyd dros 1.8 miliwn o geisiadau ar gyfer 31,000 o swyddi graddedigion.

Yn ogystal, mae cyflogwyr yn derbyn mwy o geisiadau i bob rôl, sy'n ei gwneud hi'n fwy cystadleuol i'r rhai sy'n ymgeisio.

Er bod nifer y graddedigion a gyflogwyd wedi gostwng, cyflogwyd mwy o bobl sydd wedi gadael ysgol a choleg drwy brentisiaethau o 8%, sydd yn awgrymu fod cyflogwyr yn symud ffocws o raddedigion i brentisiaethau.

Ar y cyfan, fe wnaeth y farchnad swyddi lefel mynediad ('entrance role') ostwng o 5%.

Mae'r arolwg hefyd yn dangos fod y patrymau yn amrywio o sector i sector. Er bod 42% o gyflogwyr wedi lleihau lefelau cyflogi graddedigion, mae 25% o gyflogwyr wedi cynnal lefel cyflogi cyson, tra bod 33% wedi cynyddu. 

Defnydd deallusrwydd artiffisial 'ddim yn deg'

Erbyn hyn mae rhai cyflogwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) er mwyn dewis eu hymgeiswyr llwyddiannus. 

Mae hyn drwy amlygu geririau allweddol mewn CV's a llythyron cais, a dadansoddi cyfweliadau fideo. 

Fe ychwanegodd Elin "Ma' 'na un o'r swyddi siopau nes i drio am, ag oedd y cyfweliad yn hollol AI. 

"Nes i fynd arno fo ac roedd fideo o ddynes yn siarad gyda pre-set questions. Roedd o'n gadael rhyw ddeg eiliad i chi feddwl am sut i ateb y cwestiwn a recordio.

"Dwi'n meddwl dyna le mae'r broblem yn dod i mewn. Dwi'n bersonol heb lawer o brofiad retail, ond os fyswn i'n cael cyfle i siarad efo nhw wyneb yn wyneb ella byswn i'n gallu dweud sut mae pethau dwi di neud o'r blaen yn gymwys i'r swydd yna.

"Ond dwi ddim yn cael y cyfle os dwi dim ond yn cael deg eiliad i feddwl amdano'r peth cyn ateb y cwestiwn. Dydy o ddim yn deg dwi'n i feddwl."

Er bod ISE yn canolbwyntio ar gyflogwyr mawr sydd â rhaglenni ffurfiol o hyfforddi graddedigion, mae data ehangach y farchnad lafur yn dangos gostyngiad o 13% yn yr holl hysbysebion swyddi rhwng Gorffennaf 2024 a Gorffennaf 2025. 

Fe all hyn effeithio ar swyddi y tu hwnt i'r rolau hyfforddi ffurfiol i raddedigion. 

Mae'r adroddiad ISE yn amcangyfrif bydd recriwtio graddedigion yn parhau i fod yn her yn 2025-26, gyda disgyniad disgwyliedig o 7%. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.