Oes bradwr yn y tŷ? Celebrity Traitors yn dirwyn i ben mewn modd dramatig
Rhybudd 'spoiler': Mae'r erthygl yma yn enwi'r cystadleuydd buddugol yng nghyfres The Celebrity Traitors eleni
Mae'r gyfres ddiweddaraf o The Celebrity Traitors wedi dirwyn i ben yn y modd mwyaf dramatig nos Iau.
Mae'r gyfres boblogaidd gan y BBC yn gosod her i 'ffyddloniaid' geisio dod o hyd i 'fradwyr' drwy gwblhau nifer o heriau yn ystod y gyfres.
Ymysg yr enwogion a ddaeth i'r brig - gan osgoi cael eu 'llofruddio' gan y bradwyr tan y rhaglen olaf, oedd y cyn-chwaraewr rygbi Joe Marler, yr hanesydd David Olusoga, y gantores Cat Burns, yr actor a'r comedïwr Nick Mohammed, a'r cyflwynydd a'r digrifwr Alan Carr.
Wrth i'r amheuon gynyddu am pwy oedd y bradwr neu fradwyr oedd ar ôl o fewn y criw, daeth Joe Marler yn agos iawn at ddyfalu'r gwirionedd cyn iddo gael ei alltudio o'r gystadleuaeth yn y munudau olaf.
Dim ond tri oedd yn weddill i ddatgelu eu cyfrinachau i'r gyflwynwraig Claudia Winkleman, allan o'r 19 gwreiddiol ar ddechrau'n gyfres.
A'r olaf i rannu'r newyddion mai bradwr yr oedd wedi bod ers y cychwyn - er mawr syndod a sioc i'w gyd-gystadleuwyr oedd wedi ymddiried yn llawn ynddo - oedd Alan Carr.
Wrth ddathlu ei fuddugoliaeth yn ddagreuol, dywedodd Alan Carr fod pwysau sylweddol wedi bod ar ei ysgwyddau wrth orfod cuddio ei gyfrinach i weddill y criw.
"Mae wedi bod yn fy rhwygo'n ddarnau, mae'n ddrwg iawn gen i," meddai, wrth iddo ddatgelu ei fod wedi bod yn fradwr o'r cychwyn.
"Rwy'n ddyn ofnadwy."
Nid dyna oedd ymateb y gynulleidfa, oedd yn llawn edmygedd o'i ddoniau twyllodrus - a doniol - ar ddiwedd y gyfres.