‘Wedi newid ein bywydau’: Ceisiadau Cân i Gymru 2026 ar agor
Mae cystadleuaeth gyfansoddi Cân i Gymru 2026 wedi agor i geisiadau, wrth i’r gystadleuaeth ddychwelyd i Ynys Môn am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd.
Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror 2026.
Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws y gystadleuaeth a gwobr ariannol o £5,000, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.
Y gân ‘Troseddwr yr Awr’ gan y band ifanc o Sir Gaerfyrddin, Dros Dro, ddaeth i’r brig yn 2025 a dywedodd prif leisydd y band Efa Angharad Fychan ei bod wedi “newid ein bywydau ni”.
“Mae’n agor drysau i gyfleoedd hollol ffantastig, bysen ni byth wedi cael os nad oedden ni wedi trio, felly ewch ati i ‘sgwennu cân sydd yn meddwl rhywbeth i chi a cerwch amdani!” meddai.
Yn ôl i gadeirio panel y rheithgor mae Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr.
“Dwi mor gyffrous bod Cân i Gymru yn dod i Ogledd Cymru unwaith eto,” meddai Osian.
“Dwi’n annog pob un o bob oedran i drio, yn enwedig os ydych chi mewn band ifanc. Cerwch amdani!
“Peidiwch a meddwl am gyn-enillwyr, mi ydyn ni isio clywed be’ sydd gennych chi i’w ddweud.”
'Caru arbrofi'
Yn ymuno ag Osian ar y rheithgor eleni, mae Barry ‘archie’ Jones o’r band Celt, y canwr a'r cyfansoddwr, Mali Hâf, y cyflwynydd a’r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.
Dywedodd Mali Hâf: “Ro’n i wrth fy modd i gael gwahoddiad i fod ar reithgor Cân i Gymru.
“Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn rhan o fy nhaith fel cerddor. A fel cerddor fy hun, dwi’n gwybod pa mor sbesial yw hi i ysgrifennu cân.
“Dwi’n edrych ymlaen at glywed miwsig newydd sbon a tiwns sydd heb weld golau dydd eto.
“Dwi’n caru arbrofi wrth gyfansoddi felly dwi’n awyddus i glywed amryw o genres. Dwi’n chwilio am liw, stori, dychymyg a rhywbeth bachog sy’n mynd i aros yn fy mhen.”
Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Sul 4 Ionawr am 23:59. Er mwyn cystadlu, ewch draw i wefan S4C am ragor o wybodaeth, telerau ac amodau a ffurflen ymgeisio: www.s4c.cymru/canigymru