Afghanistan: Y DU mewn 'ras yn erbyn amser'

Afghanistan: Y DU mewn 'ras yn erbyn amser'
Mae'r DU mewn "ras yn erbyn amser" i helpu dinasyddion ac Afghaniaid sydd wedi gweithio gyda Phrydain i ffoi o'r wlad.
Daw hyn ar ôl i arlywydd yr UDA ddweud bod rhaid cwblhau eu 'cynllun achub' o fewn 10 diwrnod.
Yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, awgrymodd Joe Biden y bydd ymdrechion byddin yr UDA i achub Americanwyr o'r wlad yn dod i ben erbyn diwedd y mis.
Mae'n debyg y bydd y DU yn dilyn yr un amserlen ar gyfer lluoedd arfog Prydain.
Milwyr yr UDA sydd yn arwain yr ymdrechion ffoi o Afghanistan, gyda degau o filoedd o bobl yn parhau i aros i gael eu hachub cyn 31 Awst, yn ôl Sky News.
Darllenwch y stori'n llawn yma.