60 o swyddi newydd i ddod i Ferthyr Tudful

Swyddi Merthyr

Fe fydd 60 o swyddi newydd yn dod i Ferthyr Tudful wrth i bencadlys newydd Awdurdod Tomenni nas Defnyddir gael ei sefydlu ar hen domen lo sydd wedi'i hadfer yn y dref.

Mae’r corff cyhoeddus newydd yn cael ei greu yn sgil pasio deddf newydd, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi.  

Mae dros 90% o'r tomenni glo nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio sydd â'r potensial i fod yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd yng nghymoedd de Cymru. 

Bydd yr Awdurdod yn gyfrifol am asesu, categoreiddio, cofrestru ac archwilio'r holl hen domenni segur ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n effeithiol dros y tymor hir a lleihau bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd.

Mae disgwyl cyhoeddiad mai yng nghanol cymunedau y maes glo y bydd cartref yr Awdurdod mewn cyfarfod  o gabinet Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful ddydd Llun. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Mae hyn yn newyddion ardderchog i Ferthyr Tudful a chymoedd y de'n gyffredinol.  

 "Bydd dod â 60 o swyddi newydd i'r Pencadlys newydd a chartrefu'r Awdurdod leoli lle mae ei angen fwyaf yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau yn yr ardal. 

 "Roedd Cymru'n arwain y byd gyda'i harbenigedd glofaol yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Nawr gallwn fod yn arweinydd byd unwaith eto, y tro hwn am ofalu am waddol ein gloddfeydd a'n chwareli a datblygu gwythïen o dalent ar gyfer cenedlaethau i ddod." 

Tan y caiff yr Awdurdod ei sefydlu, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid cyhoeddus i ddarparu cyfundrefn arolygu a chynnal a chadw effeithiol ledled Cymru. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: "Mae pwrpas yr Awdurdod – sicrhau nad yw tomenni segur yn bygwth pobl – yn un hynod hynod bwysig. 

"Mae'n dda o beth bod Merthyr Tudful wedi'i ddewis i fod yn gartref i'r pencadlys, yng nghanol y cymunedau a fydd yn elwa fwyaf o'i waith pwysig. 

"Does gen i ddim amheuaeth y daw'n arweinydd byd yn ei faes trwy ddatblygu gwybodaeth, profiad a sgiliau ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir yn ystod y cyfnod hwn o newid hinsawdd sylweddol." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.