Pwyslais sefydliadau diwylliannol ar y Gymraeg yn ‘eithrio’ pobl ddu

Fe allai polisïau'r iaith Gymraeg dau o gyrff diwylliannol cenedlaethol Cymru “eithrio” pobl o ddu neu o leiafrifoedd ethnig, yn ôl adroddiad newydd.
Cafodd yr adroddiad gan y Undeb Gwrth-hiliaeth Cymru ei gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, medd Nation.Cymru.
Wedi’i groesawu gan y ddau sefydliad, mae’r adroddiad yn beirniadu diffyg polisïau er lles pobl ddu neu o gefndir lleiafrifol ethnig, gan ddisgrifio hyn yn “ddigalon”.
Mae’n galw ar y sefydliadau i wneud mwy i hyrwyddo amrywiaeth o fewn eu polisïau, ac yn dweud y dylid llacio’r pwyslais ar y gallu i gyfathrebu trwy’r Gymraeg.
Daw hyn wedi pryderon ynghylch swydd newydd gyda'r Cyngor Celfyddydau, oedd yn gyfrifol am y Gymraeg, gyda’r hysbyseb gwreiddiol yn nodi nad oedd yn rhaid i’r unigolyn fedru siarad yr iaith.
Fe wnaeth Archdderwydd yr Orsedd, Myrddin ap Dafydd feirniadu’r penderfyniad gan gyhuddo’r sefydliad o “danseilio a thanbrisio’r” iaith Cymraeg.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Cynulliad Cymru