Newyddion S4C

Cost i rentu yng Nghymru yn ‘cynyddu oherwydd cartrefi gwyliau’

Nation.Cymru 19/08/2021
goriadau

Mae’r gost o rentu cartref wedi cynyddu oherwydd y nifer o gartrefi gwyliau sydd yng Nghymru, yn ôl grŵp ymgyrchu. 

Dywedodd y Farwnes Alicia Kennedy, cyfarwyddwr Generation Rent, roedd cynnydd o 25% yng nghost rhentu cartref mewn ardaloedd sy’n boblogaidd gyda phobl ar eu gwyliau o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl.

Cymru cafodd ei heffeithio waethaf yn y DU, yn ôl y Farwnes Kennedy, gan ychwanegu fod nifer o breswylfeydd sydd ar gael i’w rhentu wedi gostwng 53%, tra bod y gost o rentu wedi cynyddu 26%.

O ganlyniad, mae “pwysau annioddefol” ar rentwyr sydd yn byw yng nghymunedau sy’n boblogaidd ymysg twristiaid, yn ôl Generation Rent.

Maen nhw wedi galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i reoleiddio’r farchnad “ail-gartrefi” drwy drethu perchnogion yn ddigonol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi addo ceisio mynd i’r afael â’r mater dros y pedair blynedd nesaf.

Darllenwch y stori’n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.