Dominic Raab yn gwrthod galwadau i ymddiswyddo dros Afghanistan

Mae Dominic Raab wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sgil ei reolaeth o'r sefyllfa yn Afghanistan.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau ei fod wedi gwrthod siarad gyda gweinidog tramor y wlad tra ar ei wyliau wrth i’r Taliban gyrraedd y brifddinas Kabul.
Mae Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP a Phlaid Cymru wedi pwyso ar Mr Raab i adael ei rôl weinidogol gan alw ar y Prif Weinidog, Boris Johnson, i ddiswyddo’r ysgrifennydd tramor os nad yw’n camu o’r neilltu o’i wirfodd.
Ond, dywed Stryd Downing fod ganddynt “hyder llawn” yn Mr Raab.
Pan gafodd ei holi gan ohebwyr fore Iau a oedd yn bwriadu ymddiswyddo yn sgil y mater, ymatebodd drwy ddweud: “Na”, yn ôl Sky News.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.
Llun: Pippa Fowles / Rhif 10 Stryd Downing