Feargal Sharkey yn galw ar brif weithredwr sŵ i 'newid llefydd' gyda phengwiniaid

Feargal Sharkey

Mae’r cerddor Feargal Sharkey wedi galw ar brif weithredwr sw fôr yn Llundain i gymryd lle pengwiniaid sydd wedi byw dan ddaear heb unrhyw olau dydd ers 14 mlynedd.

Daw galwadau’r ymgyrchydd wrth i gannoedd brotestio yn erbyn Sea Life London Aquarium yn Westminster, fel rhan o’r ymgyrch Free The Fifteen.

Nod y brotest yw rhyddhau 15 o bengwiniaid o’r atyniad, gan eu bod bellach wedi byw am bron i ddegawd a hanner yn islawr yr adeilad heb weld golau dydd.

Ymhlith yr wynebau adnabyddus a gymerodd ran yn y brotest oedd y cyflwynwyr Chris Packham a Megan McCubbin.

Image
Chris Packham a Megan McCubbin
Chris Packham a Megan McCubbin

Galwodd Feargal Sharkey ar Fiona Eastwood, prif weithredwr perchnogion yr acwariwm, Merlin Entertainments, i newid llefydd gyda’r pengwiniaid.

“Os yw hi’n barod i dreulio mis lawr ‘na gyda’r pengwiniaid, fe fyddwn i’n rhoi £1,000 o’m harian fy hun tuag at elusen o’i dewis hi,” meddai.

“Fel ‘da ni bellach yn gwybod, mae rhai o’r pengwiniaid wedi bod lawr yna am 14 mlynedd, mewn islawr hen adeilad y cyngor.”

Image
protest
Y brotest

‘Nonsens’

Dywedodd y trefnwyr mai dim ond pwll chwech i saith metr o ddyfnder sydd gan yr adar o’r Antarctig.

Cafodd y brotest ei threfnu ar y cyd gan yr elusen Freedom For Animals, gyda chymorth Born Free a’r papur newydd The Express.

Dywedodd Sharkey nad oes rheswm pam y dylai Merlin Entertainments gadw’r adar dan glo, gan ychwanegu: “Mae’n nonsens – rhaid iddo stopio.”

Image
pengwiniaid
Cartref y pengwiniaid

Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd llefarydd ar ran Sea Life London Aquarium fod cartref y pengwiniaid “wedi’i ddylunio gyda chymorth a chyngor gan filfeddygon arbenigol”.

Ychwanegodd y llefarydd fod yna “gyfuniad rhagorol” o ddŵr a thir ar eu cyfer.

Cafodd yr ymgyrch Free The Fifteen ei lansio ym mis Ionawr 2024. Mae dros 13,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb o blaid eu rhyddhau hyd yma.

Lluniau: Jonathan Brady/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.