Newyddion S4C

Ffermwr yn adeiladu wal i amddiffyn ei deulu

Newyddion S4C 17/08/2021

Ffermwr yn adeiladu wal i amddiffyn ei deulu

Mae ffermwr o Sir Ddinbych wedi adeiladu wal o bridd er mwyn amddiffyn ei eiddo rhag bod ceir yn hyrddio trwy berth ger ei dŷ.

Mae tri achos tebyg wedi bod yn ddiweddar ar y fferm yng Nghorwen, wrth i bobl yrru ar hyd ffordd yr A494.

Yn ôl pobl leol, mae goryrru wedi mynd yn waeth ar ôl i fesurau gael eu cyflwyno ar ffyrdd cyfagos i atal pobl rhag gyrru’n rhy gyflym.

Mae Kevin Peacock yn poeni y gallai aelodau o’i deulu gael eu hanafu’n ddifrifol neu eu lladd.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn monitro’r sefyllfa.

Image
Ceir Corwen
Mae tri achos tebyg wedi bod yn ddiweddar ar fferm yng Nghorwen.

‘Dychryn digon’

Dywedodd Kevin Peacock wrth raglen Newyddion S4C: “Mae ‘di dychryn digon arna i i ‘neud rhywbeth i drio amharu ar y ceir rhag dod trwadd. 

“‘Dan ni ‘di bod wrthi penwythnos ‘ma, ‘dan ni ‘di roid dros 200 tunnell o bridd ar hyd y top ‘ma i geisio stopio ceir ddod trwadd.

“Dio’m yn mynd i stopio bob peth dwi’n gwbod ond sa fo’n stopio un car, wel dwi’n teimlo fydda i ‘di neud ‘wbeth”.

Mae gwleidyddion lleol hefyd yn poeni am y sefyllfa.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Dwi’n meddwl bod angen edrych o ddifri ar gamerâu cyflymder yn sicr ond ma’ angen barriers ar ochr y ffordd. 

“Ma’ gynnoch chi barriers mewn rhai rhannau fan hyn lle wrth gwrs ma’ ‘na lai o beryg i’r cyhoedd yn y mannau hynny. 

“Felly, pam ddim yn y mannau sydd yn dod trw’r ardaloedd lle ma’ ‘na gartrefi?”

Image
Llyr Gruffydd AS
Mae Llyr Gruffydd AS o’r farn nad yw’r system bresennol yn effeithiol.

Mae’r AS Plaid Cymru dros ranbarth Gogledd Cymru o’r farn nad yw’r system bresennol yn effeithiol.

Ychwanegodd Mr Gruffydd: “Ma’ ‘na atebion ond yn anffodus mae’r llywodraeth yn defnyddio rhyw system sy’n golygu os nad oes ‘na ddamweiniau angheuol neu bobol yn cael eu hanafu yna maen nhw’n cymryd bo hynny’n dystiolaeth bod y ffordd yn ddiogel.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n ddiweddar wedi gwella arwyddion ar ac ar ochr y ffordd ger y safle yma a’u bod nhw’n adolygu’r dystiolaeth i weld os oes angen cymryd camau peirianyddol ychwanegol.

Fe fydd Llywodraeth Cymru hefyd yn monitro ffigyrau’r heddlu ynglŷn â damweiniau i weld os oes angen cymryd mesurau ychwanegol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.