
Covid-19: 'Angen gwneud mwy’ i frechu plant iau, yn ôl meddyg blaenllaw

Covid-19: 'Angen gwneud mwy’ i frechu plant iau, yn ôl meddyg blaenllaw
Mae angen brechu plant ysgol os am leihau bygythiad coronafeirws ymhellach yn ôl un o brif feddygon Cymru.
Mae Dr Simon Barry yn gyfrifol am iechyd resbiradol a phroblemau anadlu.
Dywedodd er nad yw plant eu hunain yn debygol o fod yn sâl o ganlyniad i Covid-19, byddai eu brechu rhag y feirws yn gwarchod pobl eraill.
Dywedodd Dr Barry: “Nid yw'r plant eu hunain yn debygol o fynd yn sâl eu hunain oherwydd rydyn ni'n gwybod pan rydych chi'n ifanc eich bod chi'n cael eich amddiffyn yn gymharol dda.
“Ond [gyda’r brechiad] byddan nhw'n lleihau'r risg i bobl eraill”.

‘Angen gwneud mwy’
Mae Dr. Barry argymell bod plant mor ifanc â 12 oed yn cael y brechlyn.
Ychwanegodd: “Mae angen i ni wneud mwy o'r hyn y mae'r Ewropeaid yn ei wneud nawr, sef brechu plant iau oherwydd bydd y feirws yn lledaenu mewn ysgolion.
“Mae gennym ni gyfnod o amser dros yr haf lle mae pobl i ffwrdd o'r ysgol ond pan fyddant yn dychwelyd heb gael eu brechu bydd y feirws yn lledaenu”
Daw sylwadau Dr Barry yn dilyn cyhoeddiad y corff sy'n rheoleiddio meddyginiaeth bod brechlyn Moderna yn ddiogel ar gyfer plant mor ifanc â 12 oed.
Ond ar hyn o bryd does yna ddim bwriad i'w brechu nhw oni bai fod angen gwneud hynny am resymau iechyd.
Eglurodd Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r JCVI yn edrych ar y data ynglŷn â effeithiau yr haint a’r brechlyn mewn plant ar hyn o bryd. Fe fydd y JCVI yna yn rhoi cyngor i lywodraethau’r Deyrnas Unedig fel bod nhw’n gallu gwneud penderfyniad”.

Brechu plant cymwys dros yr haf
Un sydd ar fin cael ei brechlyn cyntaf yw Lia Huws o Ynys Môn.
Mae Lia yn 17 ac yn rhan o glwb ffermwyr ifanc Bodedern.
Mae’n cydymdeimlo â phryderon pobl ifanc am gael y brechlyn ond yn mynd i gael e beth bynnag.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: “Dwi yn mynd i gael y brechlyn pnawn 'ma a, i ddeud y gwir dwi wedi bod yn itha pryderus o gael o, fatha lot o bobl rili.
“Dwi wedi cael Covid ym mis Rhagfyr ac maen nhw'n deud bod pobl sy' wedi cael Covid yn fwy tebygol o fod yn sâl ar ôl o a ballu.
“Ond dwi'n bryderus ond hefyd dwi'n gyffrous 'cause ‘mond bach o annwyd ydi o rili ynde, wel i ni gobeithio anyway”.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Bydd pob person 16 a 17 oed yng Nghymru wedi derbyn eu cynnig o frechlyn Covid erbyn diwedd yr wythnos hon.
“Yn unol â chanllawiau JCVI mae byrddau iechyd wedi dechrau gwahodd plant cymwys rhwng 12 a 15 oed i gael eu brechu.
“Rydyn ni eisiau i gynifer o'r bobl ifanc hyn gael eu brechu cyn i'r tymor ysgol newydd ddechrau”.