Galeri Caernarfon yn penodi Cyfarwyddwr Artistig newydd

Mari Elen Jones

Mae Mari Elen Jones wedi'i phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig newydd Galeri Caernarfon.

A hithau’n wneuthurwr a pherfformiwr theatr, mae Mari Elen Jones yn un o aelodau Cwmni Tebot ac yn grëwr y podlediad Gwrachod Heddiw.

Fel rhan o'i swydd newydd bydd Mari yn curadu rhaglen artistig Galeri Caernarfon ac yn cydweithio gyda phartneriaid celfyddydol yn y dref.

Dywedodd ei bod yn bwriadu datblygu rhaglen sy'n mynd i "gynnig rhywbeth i bawb".

"Fy mwriad ydy datblygu rhaglen sydd yn mynd i gynnig rhywbeth i bawb gan gyffroi cynulleidfaoedd, meithrin yr ymdeimlad o gymuned a sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu cynrychioli trwy arlwy greadigol Galeri," meddai.

"Wrth agor y drysau i bawb a chydweithio hefo artistiaid, cwmnïau a’r gymuned leol bydd Galeri’n byrlymu, ffynnu ac ehangu ei gorwelion."

'Lloches greadigol'

Mae Mari’n wyneb cyfarwydd yn Galeri yn dilyn ei hamser yn gweithio fel Cydlynydd Sbarc, theatr ieuenctid Galeri. 

Wrth ddychwelyd i'r sefydliad, dywedodd y bydd hi’n ail-gysylltu hefo tîm a chenhadaeth sy’n agos iawn at ei chalon.  

"Mae Galeri yn adeilad eiconig yma yn Arfon sydd wedi rhoi profiadau arbennig i mi dros y blynyddoedd ac atgofion gwych o weithio hefo Sbarc a Cain," meddai. 

"Ond rhaid cofio mae Galeri yn fwy nag adeilad – mae o wedi bod yn lloches greadigol i bobl o’r un anian â fi sy’n ysu am gysylltiad; hwb reit yng nghanol Caernarfon sy’n cynnig ei hun fel calon y gymuned artistig yng ngogledd-0rllewin Cymru. 

"Dw i wir yn edrych ymlaen at lywio'r ochr greadigol ym mhennod nesaf Galeri."

Daw'r newyddion yn dilyn penodiad Nia Arfon fel Prif Weithredwr newydd y sefydliad ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Nia: "Deinamig, egnïol a gwreiddiol – dyna’r gwerthoedd sydd am wthio cwmni Galeri i'w phennod nesaf, a’r union werthoedd gyflwynodd Mari i ni fel rhan o’r broses gyfweld. 

"Corff sy’n sbarduno twf economaidd a chymdeithasol ydy Galeri, a gyda Mari’n rhan o’r uwch dîm, rydym yn hyderus bydd modd i ni gyd-blethu profiadau creadigol a diwylliannol i ffyniant yr ardal leol. Croeso cynnes iawn i ti, Mari!"

Bydd Mari yn cymryd yr awenau yn yr hydref.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.