Newyddion S4C

Arwydd yn arddull Hollywood wedi ei godi yn Wrecsam

ITV Cymru 16/08/2021

Arwydd yn arddull Hollywood wedi ei godi yn Wrecsam

Mae arwydd enfawr mewn steil Hollywood wedi cael ei godi yn Wrecsam.

Cafodd sawl llun o’r arwydd newydd, sydd wedi ei leoli ar Fanc Y Bers, eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos.

Ar Trydar, dywedodd y clwb pêl-droed mai “ateb Ewrop i Hollywood” fuodd Wrecsam erioed. 

Daw hyn wrth i gysylltiad y dref gyda Hollywood barhau wedi i’r sêr Ryan Reynolds a Rob McElhenney gymryd rheolaeth dros Glwb Pêl-Droed Wrecsam y llynedd.

Wythnos diwethaf, fe gafodd rhai o weithwyr argyfwng ac elusennol y dref y cyfle i wylio ffilm ddiweddaraf Ryan Reynolds am ddim. 

Mae Clwb Pêl-Droed Wrecsam hefyd wedi dweud ei fod wedi gweld galw “digynsail” am docynnau tymor ers i’r enwogion brynu’r clwb ym mis Chwefror, gyda chefnogwyr yn ciwio dros nos i gael gafael arnynt.

Wrth geisio am reolaeth dros y clwb, fe ddywedodd Reynolds a McElhenney eu bod nhw’n dymuno ei droi yn “rym rhyngwladol".

Maen nhw hefyd wedi addo ystyried adnewyddu’r Cae Rasio, sef cartref y clwb pêl-droed, a sicrhau “ambell gig Tom Jones".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.