Dyn wedi ei anafu’n ddifrifol wedi gwrthdrawiad ger Y Bala
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn gael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Bala.
Digwyddodd y digwyddiad ar yr A4212 yn Fron-goch am 14:25 ddydd Sul, 15 Awst.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys dau gerbyd sef beic modur Honda du a char Ford Ecosport gwyn.
Dywedodd yr heddlu bod dyn yn ei 40au oedd yn gyrru’r beic modur wedi ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke gydag anafiadau a allai beryglu ei fywyd.
Dywedodd Sarjant Medwyn Williams o Uned Plismona’r Ffyrdd: “Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A4212 ac sydd â lluniau camera dashfwrdd, i gysylltu â ni ar unwaith.
“Ail-agorodd y ffordd ychydig cyn 20:00 ar ôl i’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig gynnal eu hymchwiliad cychwynnol, a hoffem ddiolch i yrrwyr a’r gymuned leol eu hamynedd.”
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â swyddogion drwy wefan yr Uned Plismona'r Ffyrdd neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio cyfeirnod 21000568914.