Y cyfarwyddwr a'r actor Robert Redford wedi marw yn 89 oed

16/09/2025
Llun: Robert Redford (yn y siwt du) a Tom Cruise
Llun: Robert Redford (yn y siwt du) a Tom Cruise

Mae’r cyfarwyddwr a’r actor Robert Redford wedi marw yn ei gartref yn Utah yn 89 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn y ffilmiau Butch Cassidy And The Sundance Kid, All The President’s Men a The Sting.

Enillodd Oscar am gyfarwyddo'r ffilm Ordinary People yn 1980 - y tro cyntaf iddo gyfarwyddo ffilm yn ei yrfa.

Redford oedd sylfaenydd yr Ŵyl Ffilmiau Sundance, sydd yn cael ei chynnal yn Utah yn flynyddol.

Dywedodd ei gyhoeddwr, Cindi Berger bod Mr Redford wedi marw ddydd Mawrth yn ei gartref yn Sundance, Utah.

Ychwanegodd: "Bydd colled fawr ar ei ôl. Mae’r teulu’n gofyn am breifatrwydd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.