
Prydain yn anfon 200 o filwyr ychwanegol i Afghanistan

Prydain yn anfon 200 o filwyr ychwanegol i Afghanistan
Mae cannoedd o filwyr Prydeinig yn cael eu hanfon i ddinas Kabul er mwyn cefnogi pobl sydd yn ceisio ffoi o Afghanistan, yn ôl adroddiadau.
Fe fydd 200 o filwyr Prydain ychwanegol yn mynd i Kabul, gan ddod â nifer o filwyr lluoedd arfog y DU yn y ddinas i oddeutu 900.
Daw hyn ar ôl i'r Taliban ddod i rym a datgan fod y rhyfel ar ben yn y wlad, wedi iddynt gymryd rheolaeth o'r palas arlywyddol yn Kabul ddydd Llun.
Mae arlywydd y wlad, Ashraf Ghani, wedi ffoi o'r wlad, ac mae'r grŵp eithafol bellach yn paratoi i gyhoeddi cyfraith Islamaidd yno.
Ond mae nifer o bobl yn Afghanistan a thu hwnt yn pryderu y gallai'r Taliban ail-gyflwyno'r math o lywodraethu a gafodd, mwy neu lai, wared ar hawliau menywod yn y wlad, gyda rhai pobl yn aros wrth beiriannau arian i dynnu eu cynilion.
'Fydd hi'n lle tywyll yn Afghanistan eto'
Mae Sarjant Martin Topps, sydd yn gyn-filwr o Afghanistan, yn pryderu y bydd yr holl waith i wella'r wlad wedi "mynd lawr y draen".
"Oedden ni'n gwybod bod y Taliban trio mynd i ddod yn ôl ond, iddo fo ddigwydd mor hawdd o be' ddwi 'di gweld ar y newyddion, jyst yn reit drist bod o 'di digwydd mor sydyn felly," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.

"A be' dwi'n poeni rŵan ydi'r gwaith da 'da ni gyd 'di neud yna, bod o gyd mynd i fynd lawr y drain rŵan. A fydd merched ac felly yn jyst colli allan a fyddan nhw'n cael eu cam-drin.
"Mae hynny'n rhywbeth sy'n dychryn fi ac yn poeni chi i'r radda.
"A fydd hi'n lle tywyll yn Afghanistan eto."
Mewn datganiad dydd Llun, dywedodd y Gweinidog Tramor, Dominic Raab, y byddai 150 o ddinasyddion Prydain yn cyrraedd y DU yn ystod oriau man y bore, gyda 350 o Brydeinwyr a dinasyddion Afghanistan eraill yn cyrraedd yn ystod y dyddiau nesaf.
Ychwanegodd fod goresgyniad y Taliban wedi bod yn "sioc i bawb".