Cymru'n cofnodi pedwar marwolaeth Covid-19 newydd
Mae pedwar yn rhagor o bobl wedi marw yn sgil Covid-19 yng Nghymru.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 1,099 o achosion newydd o'r haint wedi eu cadarnhau drwy'r wlad.
Bellach, mae 2,313,528 o bobl wedi derbyn un dos o'r brechlyn, gyda 2,141,039 wedi eu brechu yn llawn rhag Covid-19.
Yng Nghaerdydd mae'r nifer uchaf o achosion newydd wedi eu cadarnhau, gyda 102 o achosion newydd, yna Abertawe gyda 93.
Yn y gogledd, Wrecsam oedd â'r nifer uchaf o achosion newydd, gyda 71.
Dros gyfnod o saith diwrnod, roedd y gyfradd o'r haint fesul 100,000 o'r boblogaeth ar ei huchaf drwy Gymru yn Sir Ddinbych, gyda 316.6.
Serch hynny, mae'r gyfradd ledled Cymru yn 156.6.