Charli Britton, drymiwr Edward H Dafis, wedi marw yn 68 oed
Mae Charli Britton, drymiwr adnabyddus gyda nifer o fandiau Cymraeg yn y 1970au, wedi marw yn 68 oed.
Roedd Mr Britton yn ddrymiwr i’r band roc Edward H Dafis, ac wedi chwarae gyda nifer o fandiau eraill gan gynnwys Injaroc, Hergest, John ac Alun a Dafydd Iwan.
Mae Newyddion S4C ar ddeall ei fod wedi dioddef cyfnod o salwch byr.
Fe’i ganwyd yng Nghaerdydd, cyn iddo symud i Lundain i astudio Dylunio Graffeg yn y brifysgol.
Yn ddiweddarach, fe symudodd i ogledd Cymru, cyn ymgartrefu yn ardal Caernarfon.
Roedd Mr Britton wedi dylunio nifer o gloriau llyfrau a chryno ddisgiau, yn eu plith roedd albwms Edwards H Dafis, fel Plant y Fflam a’r Hen Ffordd Gymreig o Fyw, a nifer o gloriau adnabyddus eraill o’r cyfnod.
Yn fwy diweddar roedd yn dylunio Papur Bro ardal Dyffryn Nantlle, Lleu, a hefyd yn athro drymiau yn Ysgol Gerdd William Mathias yn y Galeri yng Nghaernarfon.
Cyfraniad ‘difesur’
Yn ôl cyfeillion agos iddo, roedd yn gymeriad hapus dros ben oedd wrth ei fodd yn perfformio.
Dywedodd Cleif Harpwood, prif leisydd Edward H Dafis wrth Newyddion S4C: “Odd e’n gymeriad ffraeth. Odd ei wên yn ddigon i neud i ddyn chwerthin. Odd e’n gymeriad hapus dros ben, yn enwedig yn ystod cyfnod y band.
“Oedd e wrth ei fodd yn perfformio, ac mae ei gyfraniad yn ddifesur i gerddoriaeth gyfoes Cymraeg.
“Wrth reswm, ni gyd yn mynd i weld colled fawr ar ei ôl e.”
Fe gollodd Edward H Dafis aelod arall o’r band yn 2018, John Griffiths, a fu farw yn 67 oed.
Ychwanegodd Mr Harpwood: “Rhwng John Griff oedd yn chwarae bass i ni a Charli ar y drymiau, mae 'na be fydden ni’n alw’n ‘adran rythm’ arbennig iawn yn y nefoedd erbyn hyn.”
Dywedodd Hefin Elis, cyfaill agos arall i Mr Britton a gitarydd Edward H Dafis, wrth Newyddion S4C: “Roedd o’n gymeriad hoffus, doniol, synnwyr digrifwch unigryw. Roedd o’n gerddor pen i gamp, yn ddrymiwr pen i gamp, oedd o’n gallu chwarae gitâr hefyd.
“Hefyd wrth gwrs, mi roedd o’n ddylunydd ardderchog, oedd o wedi cynllunio lot o gloriau, recordiau a thaflenni a chylchgronau dros y blynyddoedd. Oedd o’n dalent amlochrog - lot o dalentau ganddo.
“Colled enfawr i’w ffrindiau, a sicr yn golled fawr i’r byd cerdd a dylunio Cymru. Mae’r cydymdeimlad yn fawr efo’i deulu.”
Mae Mr Britton yn gadael dau fab, Siôn a Rhys.
Llun: Canolfan Gerdd William Mathias