JD Cymru Premier ‘ddim yr un fath heb gefnogwyr’

JD Cymru Premier ‘ddim yr un fath heb gefnogwyr’
Mae uwchgynghrair bêl-droed JD Cymru Premier wedi ail-ddechrau’r penwythnos hwn.
Am y tro cyntaf ers cyn y pandemig, mae cefnogwyr wedi cael dychwelyd i wylio’r gemau’n fyw.
Yn ystod y tymor diwethaf, ble enillodd Gei Connah am yr ail dymor yn olynol, roedd y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus yn golygu nad oedd hawl gan gefnogwyr i fynychu’r gemau.
Cafodd gêm gyntaf y tymor rhwng Cei Connah a Derwyddon Cefn ei chynnal nos Wener, gyda’r pencampwyr presennol yn sicrhau buddugoliaeth gynta’r tymor o 0-2.
Ddydd Sadwrn, fe fydd Met Caerdydd yn herio’r Fflint, Aberystwyth yn wynebu’r Bari a Chaernarfon yn chwarae yn erbyn Hwlffordd.
Fe fydd y Drenewydd a’r Seintiau Newydd yn wynebu ei gilydd mewn gêm ddydd Sul.
Wrth i glybiau’r Cymru Premier groesawu cefnogwyr yn ôl, dywedodd Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Cynghreiriau Cymru JD: “O’dd llynedd yn dymor unigryw a ma’n niolch i i’r clybia’ am eu cydweithrediad efo’r gymdeithas i weithredu yr amoda’ llym o’dd gynnon ni i sicrhau fod y gemau’n digwydd.
“A ‘sdim amheuaeth weithiodd hynny achos does dim un achos wedi gael ei gadarnhau o’r feirws yn cael ei drosglwyddo o fewn y clybia’, ond yr un peth amlwg o’dd ar goll oedd y cefnogwyr.
“’Dy pêl-droed ddim yr un fath heb gefnogwyr felly ‘dan ni’n ysu i croesawu nhw ‘nôl a ‘dan ni’n gobeithio am dymor hynod gyffrous a thymor fel ddim un arall”.
Fe fydd gêm Caernarfon v Hwlffordd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C ddydd Sadwrn gyda’r gic gyntaf am 17:15.