Cynnal cyfarfod Cobra ‘brys’ yn sgil y sefyllfa yn Afghanistan

Cynnal cyfarfod Cobra ‘brys’ yn sgil y sefyllfa yn Afghanistan
Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi galw cyfarfod Cobra brys i drafod y “sefyllfa bresennol yn Afghanistan”.
Daw hyn wrth i’r Taliban gipio Kandahar, ail ddinas fwyaf Afghanistan.
Wrth i’r sefyllfa ddiogelwch ddirywio yno, mae'r Deyrnas Unedig yn paratoi i anfon 600 o filwyr i gefnogi dinasyddion Prydain sy'n ceisio gadael y wlad.
Mae grym y Taliban wedi mynd o nerth i nerth dros yr wythnosau diwethaf, gyda’r grŵp yn cipio o leiaf 12 prifddinas daleithiol o fewn wythnos.
Daw'r cynnydd wrth i'r UDA a milwyr tramor eraill ddod â gweithrediadau milwrol i ben yn Afghanistan wedi 20 mlynedd.
Darllenwch y stori’n llawn yma.