Teyrnged i 'dad a thaid' annwyl fu farw wedi gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Kenneth Bright

Mae teulu beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi teyrnged i 'dad, taid, brawd a mab annwyl'.

Ar 1 Gorffennaf, cafodd Heddlu De Cymru eu galw i A4106 Ffordd Pen-y-bont ar Ogwr yn Llandudwg, am 13.50, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur a Land Rover Defender.

Cafodd y gyrrwr y beic modur, Kenneth Bright, o Lanhari, ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ar y pryd, ond dros fis yn ddiweddarach, bu farw, ar 4 Awst.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Bright: “Gyda thristwch aruthrol yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth Kenneth Charles Bright o Lanhari, a fu farw ar 4 Awst. 

“Fel tad, taid, brawd a mab annwyl, mae ei golled wedi ein gadael mewn sioc a bydd ei deulu annwyl, a llawer o ffrindiau, yn ei golli'n fawr"

Mae swyddogion o'r uned ymchwilio i wrthdrawiadau difrifol yn annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau camera o’r digwyddiad i ddod ymlaen.

Maent hefyd yn awyddus i siarad â'r bobl oedrannus mewn Honda Civic melyn a wnaeth stopio yn y fan a'r lle, ond a wnaeth adael cyn i'r heddlu gyrraedd.

Yn ogystal, maent yn annog gyrrwr car llwyd bach a oedd yn troi i'r dde tuag at Cartref Nyrsio Dan-y-Graig i gysylltu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.