Ynys Môn: Galw am ddefnyddio mwy o gynnyrch lleol mewn prydau ysgol
Ynys Môn: Galw am ddefnyddio mwy o gynnyrch lleol mewn prydau ysgol
Y lle perffaith i arddangos cynnyrch lleol.
Mae Sioe Mon wedi denu nifer o arddangoswyr.
Ond y pryder ar y maes heddiw ydy nad ydy'r defnydd gorau yn cael ei wneud o'r cynnyrch yna.
"Siomedig a rhwystredig iawn.
"'Dan ni 'di cael llawer o gyfarfodydd efo'r Cyngor.
"Yn ol y Cyngor, dydyn nhw'n cael dim cwynion o gwbl.
"Maen nhw'n cau eu clustiau a'u llygaid.
"Mae'n radically wrong."
Ers 2021, mae cwmni Chartwells wedi darparu'r prydau dyddiol yn ysgolion cynradd ac uwchradd Ynys Mon.
Er fod y Cyngor yn dweud fod 33% yn dod o ogledd a chanolbarth Cymru mae rhai amaethwyr ac ymwelwyr ar y maes yn deud y dylai'r ffigwr fod yn llawer uwch.
"Mae'n bwysig mynd yn ol i gynnyrch hen ffasiwn.
"Be mae rhywun yn cael ar yr aelwyd adra.
"Mae'n bwysig cefnogi bobl leol efo'u cynnyrch lleol er mwyn iddynt ddatblygu a pharhau."
"Dyw'r sefyllfa ddim yn ddelfrydol yn Ynys Mon.
"Dydy o'm 'di bod ers sawl blwyddyn.
"Dw i 'di gyrru llythyrau i gwyno i'r Cyngor.
"Dylai fod yn hollol hanfodol a hollbwysig bod cynnyrch bwyd mewn prydau ysgol yn lleol neu'n sicr o ogledd Gymru, neu o Gymru.
"Nid tu allan i Gymru."
Beth yw'r ateb, felly?
Mae un prosiect lleol, Larder Cymru yn ceisio datrys y galw am fwy o gynnyrch lleol.
"'Dan ni'n cefnogi'r sector cyhoeddus i geisio gwario mwy o bres ar fwyd lleol fel bod cynhwysion mewn ysgolion ac ysbytai yng Nghymru yn gynhwysion o Gymru.
"'Dan ni isio cadw'r bunt o fewn yr economi leol a buddio ffermwyr, cynhyrchwyr
a chyflenwyr bwyd."
Doedd neb o Gyngor Mon am sgwrsio efo ni ond mewn datganiad, maent yn deud ei bod yn ofynnol iddynt gwtogi ar y milltiroedd mae bwyd yn teithio pan fo hynny'n ymarferol.
Mae eu cytundeb efo'u darparwyr hefyd yn gofyn am sicrhau fod o leiaf 30% o gynnyrch yn lleol yn ogystal a defnyddio cyflenwyr o Fon lle'n bosib.
Digon o gynnyrch lleol ar y fwydlen ar y maes heddiw ond nifer yn galw ar i hynny fod yr un peth yn ysgolion yr ynys hefyd.