Tudur Hallam yn cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Tudur Hallam sydd wedi cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.
Dyma’r ail dro i’r gŵr o Sir Gaerfyrddin ennill y gadair, ar ôl hawlio’r wobr yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn 2010.
Mae’n byw yn Foelgastell gyda’i wraig, Nia, a’u plant Garan, Bedo ac Edwy.
Dywedodd ei bod yn awyddus i ddiolch i’w deulu a’i ffrindiau am bob arwydd o gariad a chefnogaeth, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn dilyn cyfnod o salwch.
Fe enillodd y gadair am yr awdl, Y gylfinir – awdl sydd wedi ei chanmol am ei “dewrder, ei onestrwydd, ei genadwri.”
Wrth adlewyrchu ar y seremoni, dywedodd Tudur Hallam: “Oedd hi’n eitha emosiynol, yn enwedig ar y dechre’, wrth godi. Oddwn i’n ofni y byddwn i ddim yn gallu ymlacio a mwynhau ond dwi wedi.
“Ges i ofal da’r holl ffordd, o’r gadair i’r Gadair. A’r sash yma – efallai’r cyntaf erioed i gael sash yn lle clogwyn enfawr. Oedden ni’n poeni am y gwres ac ati, felly ath popeth yn hwylus.”
Fe ychwanegodd: “Dwi di bod yn gymysglyd iawn yn meddwl pam nes i gystadlu, ar y pryd doeddwn i ddim yn siŵr a fyddwn i yma mis Awst ond gyda chefnogaeth meddygon, nyrsys, teulu, cariad, dwi di 'neud hi.
“A fi yn falch fy mod i wedi cystadlu. Fi di bod yn gymysglyd iawn ond y dyddiau diwethaf, dwi di gael bach o hwyl, wrth ddweud wrth bobl, a nhw wrth eu bodd, a hwnna yn fy nghario i wedyn.”
Wrth longyfarch Mr Hallam ar ei lwyddiant, dywedodd y Prifardd Gruffudd Owen: “Dwi’m yn meddwl bod unrhyw Brifardd erioed wedi haeddu’r fath gymeradwyaeth a chefnogaeth ag wyt ti heddiw. Diolch yn fawr am dy ddewrder ac am dy gerdd a llongyfarchiadau gwresog.”
Y wobr
Cafodd y gadair ei chyflwyno am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y testun ‘Dinas’.
Y beirniaid eleni oedd Peredur Lynch, Llŷr Gwyn Lewis a Menna Elfyn.
Rhoddir y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru, a’r wobr ariannol gan Goleg Cambria.
Glo, pêl-droed, traphont ddŵr a bragdai sy'n cyfleu 'ddoe, heddiw ac yfory' Wrecsam yw'r ysbrydoliaeth i'r crefftwyr sy'n creu Cadair Eisteddfod 2025.
Bu Gafyn Owen a'i bartner busnes Sean Nelson yn ymchwilio i hanes a diwylliant ardal yr Eisteddfod yn fanwl cyn cyflwyno’u syniadau. Dywedodd Gafyn, sy'n hanu o Fangor, eu bod wedi adnabod pedwar prif dirnod sy’n ymwneud â Wrecsam, ac sy'n bwysig i’r trigolion lleol.
"Mae’r pedwar prif nodwedd yma, sef hanes pyllau glo Wrecsam, pont ddŵr Pontcysyllte, bragdai’r ddinas a'u cariad at y tîm pêl-droed yn sail i'r cynllun, ac wedi ysbrydoli ein taith ddylunio i greu'r braslun," meddai.
Llenor a hyfforddwr chwaraeon
Mae Tudur Hallam yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe, lle y bu’n addysgu ac ymchwilio ym maes y Gymraeg.
Yn ei gymuned, mae wedi mwynhau hyfforddi timoedd rygbi a phêl-droed, gan gynnwys tîm pêl-droed merched dan 14 oed Sir Gaerfyrddin.
Yn llenyddol, dywedodd Tudur bod ei ddyled yn fawr i’w athrawon yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Maes yr Yrfa, ei ddarlithwyr prifysgol yn Aberystwyth, y timau talwrn y bu’n aelod ohonynt, ei gyd-ddarlithwyr a’i fyfyrwyr yn Abertawe, ei gyfaill agos, Robert Rhys, ynghyd â’r Urdd.
Roedd ennill y Fedal Lenyddol a Chadair yr Urdd yn hwb i ddilyn gyrfa ym maes llenyddiaeth.
Yn 2010, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2019, cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Parcio.