
Cyfleoedd pobl ifanc ‘yn seiliedig ar fagwraeth, yn hytrach na gallu’
Cyfleoedd pobl ifanc ‘yn seiliedig ar fagwraeth, yn hytrach na gallu’
Mae elusen sydd yn ceisio mynd i’r afael ag anhegwch symudedd cymdeithasol – social mobility – yn dweud fod cyfleoedd pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu penderfynu yn “seiliedig ar eu magwraeth, yn hytrach na’u hymdrech a’u gallu”.
Agorodd elusen y Social Mobility Foundation eu swyddfa yng Nghaerdydd yn 2019, gan fod y “sefyllfa symudedd cymdeithasol yma yn peri cymaint o bryder”.
Symudedd cymdeithasol, neu social mobility yw’r cysylltiad rhwng gwaith neu incwm unigolyn gyda gwaith neu incwm eu rhieni.
Dywedodd yr elusen fod unigolion o gefndiroedd dosbarth gweithiol yng Nghymru 90% yn fwy tebygol o fod mewn swyddi dosbarth gweithiol, o gymharu ag unigolion o aelwydydd proffesiynol.
O’r Blaenau i Baris
Un sydd wedi profi anawsterau symudedd cymdeithasol yn uniongyrchol ydy Elin Roberts.
Mae’r olygfa o’i hystafell heddiw wedi newid tipyn ers ei phlentyndod yn y gogledd.
Wrth agor y llenni yn 2021, golygfeydd o ddinas Paris sy’n ei chroesawu yn hytrach na Moelwynion Eryri.
Mae’r cyn-ddisgybl Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog bellach yn astudio yn un o brifysgolion mwyaf nodedig y byd, sef Sefydliad Astudiaethau Gwleidyddol Paris.
Ond doedd y siwrne ddim bob tro yn un hawdd, gyda hithau wedi ei magu ar aelwyd un rhiant, a’r cyntaf yn ei theulu i fynd i’r brifysgol.
“Doedd neb yn fy nheulu i yn gwybod sut i wneud cais prifysgol hyd yn oed,” meddai’r fyfyrwraig 21 oed.
Yn ddisgybl galluog, roedd Elin yn benderfynol o fynd yn bell, ond roedd dod o hyd i wybodaeth am ysgolion haf, profiadau gwaith a phrifysgolion yn anodd.
Wedi treulio nosweithiau hwyr yn chwilio’r we am gyfleoedd, daeth o hyd i elusennau yn Llundain sy’n helpu pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig i gyrraedd eu llawn botensial; rhywbeth oedd yn ganolog i’w llwyddiant, meddai.
A hithau bellach wedi graddio, mae hi wedi sefydlu gwasanaeth sy’n helpu pobl ifanc yn yr un cwch, ond mae “diffyg ymwybyddiaeth” am y cyfleoedd sydd ar gael, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, yn ei phoeni’n fawr.

“Mae’r gair social mobility yn bodoli llawer iawn mwy yn Lloegr,” meddai.
Symudedd cymdeithasol, neu social mobility yw’r cysylltiad rhwng gwaith neu incwm unigolyn gyda gwaith neu incwm eu rhieni.
Pan mae’r cysylltiad yn gryf, mae lefel is o symudedd cymdeithasol. Pan mae’r cysylltiad yn wan, mae lefel uwch o symudedd cymdeithasol.
Ychwanegodd Elin: “Dwi’n teimlo bod myfyrwyr sy’n dod o Gymru, yn enwedig cefn gwlad Cymru, dydyn nhw ddim yn cael yr un math o gyfleoedd.
“Mae 'na lwythi o elusennau yna sy’n gweithio hefo pobl sy’n gwneud Lefel A, yn y brifysgol, lle maen nhw’n cael cyfleoedd profiad gwaith, mentora a career guidance.
“Ond mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol o beth sy’n bodoli tu allan yna a bod 'na gyfleoedd hollol wahanol a hollol unigryw yna.”
‘Anghydraddoldebau dwys’
Yn eu hadroddiad diwethaf dywedodd y Comisiwn ar Symudedd Cymdeithasol Llywodraeth y DU fod “anghydraddoldebau dwys ym Mhrydain”.
Darganfuwyd fod symudedd cymdeithasol yn “ddisymud”, gyda’r rhai o gefndiroedd mwy llewyrchus yn llawer iawn mwy tebygol o fod mewn swyddi proffesiynol na rhai o gefndiroedd dosbarth gweithiol.
Yn ôl Prif Weithredwr y Social Mobility Foundation, Sarah Atkinson, mae "llawer o waith i'w wneud” eto.
“Rydym wedi partneru gyda llawer o fusnesau yng Nghymru i wneud gwahaniaeth ymarferol: helpu pobl ifanc disglair o gefndiroedd incwm isel i gyrraedd y prifysgolion a'r proffesiynau gorau.
“Ond, er mwyn cyflymu symudedd cymdeithasol yn wirioneddol, mae angen i Lywodraeth Cymru a’r gymuned fusnes cyfan roi fwy o bwyslais ar symudedd cymdeithasol.”

Mae Elin Roberts yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun sy’n rhoi cefnogaeth a gwybodaeth gyrfa i fyfyrwyr galluog o gefndiroedd difreintiedig.
Byddai hyn yn ymestyniad o fenter Rhwydwaith Seren y llywodraeth, sy’n helpu disgyblion mwyaf disglair Cymru i sicrhau llefydd mewn prifysgolion blaenllaw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Bydde ni’n sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru'r amrediad ehangach bosib o gyfleoedd ar gael iddynt – naill ai wrth iddynt barhau yn eu hastudiaethau, neu ymuno a’r gweithle.
“Mae ein Gwarant i Bobl Ifanc – a’i cyhoeddwyd yn gynharach yn yr haf – yn amlinellu ein hymrwymiad i ddarparu i bobl ifanc o dan 25 yng Nghymru'r gefnogaeth y maent yn eu hangen i ymgymryd â hyfforddiant, addysg, gwaith neu hunangyflogaeth.
“Bydd y gwasanaeth Cymru’n Gweithio – gyda’i hanes o lwyddiant mewn helpu pobl ifanc gyda chyngor gyrfaoedd a chefnogaeth arall – yn chwarae rôl bwysig y dull newydd hon.”