Donald Trump yn cyhoeddi tollau masnach newydd ar ddegau o wledydd
Mae Arlywydd yr UDA Donald Trump wedi cyhoeddi y bydd dros 90 o wledydd yn wynebu tariffau masnach newydd o ddydd Gwener ymlaen - wedi iddo ohirio'r cam ddwywaith yn y misoedd diwethaf.
Cyhoeddodd fod dydd Gwener yn "DDIWRNOD MAWR I AMERICA", gyda dim ond Mecsico'n llwyddo i ymestyn y cyfnod pan na fydd y tariffau'n berthnasol i'w heconomi ar y funud olaf.
Fe fydd y cam diweddaraf, ar ôl iddo ohirio'r newidiadau ddwywaith yn barod - o Ebrill i Orffennaf ac yna o Orffennaf i fis Awst - yn siwr o greu ansicrwydd yn y marchnadoedd ariannol.
Mae Mecsico wedi llwyddo i sicrhau estyniad o 90 diwrnod cyn i dariffau ddod i rym ar ei nwyddau, ond mae Canada'n wynebu cynnydd o 25% i 35%.
Pan gyhoeddodd Trump ei fwriad am y tro cyntaf ym mis Ebrill, fe achosodd gwymp sylweddol i gyfranddaliadau yn y marchnadoedd ariannol, gydag arbennigwyr yn darogan y byddai'r newidiadau'n arwain at gynnydd mewn prisiau nwyddau i gwsmeriaid.
Ymysg y gwledydd sydd yn wynebu'r cynnydd uchaf mewn tariffau gan benderfyniad yr arlywydd mae Brasil - sy'n wynebu tariff o 50%.
Y gred yw mai penderfyniad gwleidyddol yw cymhelliad Trump dros y cynnydd sylweddol hwn - a hynny fel cosb i lywodraeth y wlad am erlyn eu cyn-arlywydd Jair Bolsonaro, oedd yn gefnogol iawn i Washington.
Mae Mr Trump wedi wynebu beirniadaeth am newid ei feddwl ar fwrw ymlaen gyda'r tariffau ddwywaith yn y misoedd diwethaf, gyda'i wrthwynebwyr yn ei alw'n “Taco” - neu 'Trump Always Chickens Out.'
Mae un o economïau mwya'r byd, Tsieina, yn parhau mewn trafodaethau gyda'r UDA am faint y tariffau y bydd yn ei wynebu.