
Ymosodiad 'dieflig' Southport 'ddim am ein diffinio ni'
Fydd pobl Southport ddim yn gadael i rywbeth "dieflig ein diffinio ni", flwyddyn ers yr ymosodiad ar ddosbarth dawns yn y dref.
Mae'n flwyddyn ers i Axel Rudakubana lofruddio Alice da Silva Aguiar oedd yn 9 oed, Bebe King, chwech oed, a Elsie Dot Stancombe oedd yn 7 oed yn ystod y dosbarth.
Yn y dyddiau wedi'r ymosodiad roedd terfysg ar y strydoedd yn y dref ac ar draws Lloegr.
Mae dirprwy arweinydd Cyngor Sefton, Paulette Lappin wedi dweud bod y gymuned nawr eisiau symud ymlaen mewn ffordd bositif.
"Mae dal yn rhywbeth sydd yn anodd ei gredu er mod i'n gwybod ei fod yn wir ac yn ofnadwy o drist. O'r tristwch yma rydyn ni yn gobeithio gweld daioni. Dim ond hynny allwn ni wneud," meddai wrth wasanaeth newyddion PA.
Bydd gerddi neuadd y dref Southport yn cael eu trawsnewid er cof am y plant fuodd farw. Roedd pobl wedi gosod blodau yn yr ardal a chafodd gwylnos ei gynnal yn yr ardal pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

'Gwrando ar bawb'
"Fe fydd yn cael ei ddylunio er mwyn i blant fwynhau a chael hwyl, fel bod bob un plentyn yn medru dod yma a chwarae yma. Dyna mae'n rhaid i ni gofio, bod yr hyn ddigwyddodd yn drasiedi hollol ofnadwy ond allwn ni ddim gadael i rywbeth dieflig ein diffinio ni."
Mae parc chwarae hefyd yn cael ei adeiladu yn Ysgol Gynradd Churchtown lle'r oedd Alice a Bebe yn ddisgyblion.
Ar y diwrnod mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i roi cyfraniad i achosion lleol ac i beidio gosod blodau. Mae cronfeydd wedi eu sefydlu yn enwau'r tair merch.
Fydd yna ddim gwylnos chwaith ond fe fydd yna dri munud o dawelwch am 15.00 y prynhawn. Bydd canolfannau cymunedol ar agor ac eglwysi i gefnogi'r rhai sydd eisiau cefnogaeth.
Yn ôl y cynghorydd Lappin maent wedi dilyn arweiniad y teulu wrth drefnu'r diwrnod.
Llynedd cafodd cronfa ei sefydlu i helpu busnesau gafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad ac i gefnogi teuluoedd. Mae'r cyngor wedi cydweithio gyda nifer gan gynnwys grwpiau cymunedol a chrefyddol â'r gwasanaethau brys dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Rydyn ni yn gobeithio bod hyn yn ffordd holistaidd o wrando ar bawb gyda pharch ag urddas fel ein bod ni yn gallu symud ymlaen gyda'n gilydd gymaint ag y gallwn ni," meddai.
"Mae'r gwaith yn un sydd yn mynd ymlaen. Fe fydd yn parhau."
Prif lun: Heddlu Glannau Mersi/PA Wire