Arlywydd Trump yn chwarae golff ar ddechrau ei ymweliad â'r Alban
Roedd diogelwch llym o amgylch yr Arlywydd Donald Trump wrth iddo chwarae golff, ar ddechrau ei daith breifat bum niwrnod yn yr Alban.
Aeth i'w ganolfan Trump Turnberry – a brynodd yn 2014 – yn syth wedi iddo lanio yn yr Alban nos Wener.
Fore Sadwrn, cafodd ei weld ar gwrs golff yno.
Cyn hynny, roedd nifer fawr o blismyn a swyddogion milwrol yn archwilio'r safle.
Mae nifer o ffyrdd ar gau yn yr ardal, gyda mynediad cyfyngedig i bobol leol ac aelodau o'r cyfryngau.
Mae Donald Trump yn aros yn Turnberry ar ddechrau ei daith breifat, a bydd yn cyfarfod â phrif weinidogion y Deyrnas Unedig a'r Alban, Syr Keir Starmer a John Swinney yn ystod y dyddiau nesaf.
Cyfarfodydd
Mae cyfarfod wedi ei drefnu rhyngddo â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen ddydd Sul.
Ond does dim trafodaethau ar y gweill ddydd Sadwrn, felly mae'n ymddangos fod yr Arlywydd Trump wedi neilltuo amser i chwarae golff.
Ond cafodd protestiadau eu cynnal, wrth i gannoedd o wrthwynebwyr Mr Trump ymgynnull yng Nghaeredin ac Aberdeen ddydd Sadwrn.
Roedd nifer ohonyn nhw yn gwrthwynebu safiad yr Arlywydd Trump ar faterion fel yr amgylchedd a'r gwrthdaro rhwng Israel a Hamas.
Cyn dychwelyd adref, bydd yr Arlywydd Trump yn teithio i Sir Aberdeen, lle mae disgwyl iddo agor ei ail gwrs golff yn Balmedie.
Tra'n ateb cwestiynau newyddiadurwyr wrth iddo lanio ddydd Gwener, dywedodd fod angen i Ewrop "fynd i'r afael â mewnfudo," gan ychwanegu fod hynny yn "lladd" y cyfandir.
Rhoddodd ganmoliaeth i Syr Keir Starmer, gan ei ddisgrifio'n "ddyn da" ond ychwanegodd fod Prif Weinidog y DU "fymryn yn fwy rhyddfrydol nag ydw i."
Dydd Sadwrn yw'r prawf cyntaf i Heddlu'r Alban wrth iddyn nhw oruchwylio'r protestiadau yn Aberdeen a Chaeredin, yn ogystal ag unrhyw sefyllfa allai godi ger cwrs golff yr Arlywydd Trump.
Cyn yr ymweliad, apeliodd Prif Weinidog yr Alban, John Swinney ar Albanwyr i brotestio'n "heddychlon o fewn y gyfraith."