
Cynnal her gerdded arbennig er cof am 'gapten ac arweinydd' o Fôn
Fe fydd teulu a ffrindiau tad o Ynys Môn a fu farw’n sydyn y llynedd yn cerdded o’r Wyddfa i Ynys Cybi nos Sadwrn er cof amdano.
Bu farw Mike Davies, o Fae Trearddur, yn 44 oed fis Awst y llynedd.
Roedd yn ŵr, yn dad i ddau o blant ac yn bêl-droediwr brwd dros sawl tîm ar Ynys Môn.
“Roedd Mike yn llawn bywyd, wrth ei fodd hefo parti a tynnu coes,” meddai ei frawd, Chris.
“Roedd yn gystadleuol iawn ar y cae pêl-droed, yn gapten ac yn arweinydd. Ac roedd o’n ddyn teulu da. Roedd yn caru ei wraig Michelle a’u meibion, Rio a Cai.”

Ym mis Awst y llynedd cafodd Mike a Chris wahoddiad i chwarae mewn gêm bêl-droed elusennol gan Glwb Pêl-droed Bae Trearddur, clwb oedd yn agos i’w calonnau.
Wedi ychydig dros 20 munud, fe benderfynodd Mike gamu oddi ar y cae am ei fod yn teimlo’n wael.
“Doedd hynny ddim fel Mike,” meddai Chris am ei frawd, oedd wedi chwarae mewn cannoedd o gemau pêl-droed dros y blynyddoedd.
“Ar hanner amser, mi es i checkio arno fo yn yr ystafell newid a doedd o ddim yn teimlo’n dda.
“Ond roedd wedi bod yn yr ysbyty bythefnos cyn hynny ac wedi cael triniaeth am haint ar y frest, felly ro’n ni’n meddwl bod o’n rhywbeth i wneud hefo hynny.”
Fe gafodd Mike ei gludo adref gan ei wraig, Michelle, ond o fewn munudau dechreuodd gael poenau yn ei frest a’i fraich. Penderfynodd Michelle ei yrru yn syth i Ysbyty Penrhos Stanley, gan ffonio Chris.
“Fe wnaethon ni redeg oddi ar y cae a chyrraedd yr ysbyty mor sydyn â phosib. Pan nesh i gyrraedd yr ysbyty, roedd y parafeddygon yn gweithio arno fo, felly gafodd y cyfle orau bosib i oroesi.”
Er gwaethaf ymdrechion gorau’r meddygon, bu farw Mike o ganlyniad i ataliad y galon, a hynny tua awr ers iddo fod yn chwarae yn y gêm.
'Twll mawr'
"Am y misoedd cyntaf, roedd pawb mewn sioc," meddai Chris.
"Roedd o mor ffit a mor gryf, doedd neb 'di disgwl i rwbath fel hyn ddigwydd iddo fo. Dros amser ti'n sylwi faint ti'n methu fo, ond mae 'na dwll mawr yn teulu ni rwan."
Er cof amdano, penderfynodd Chris, Michelle a'r teulu sefydlu elusen yn ei enw - y Mikey Davies Foundation.
“Roedd ‘na defib yn yr orsaf bad achub, yn agos i'r cae. Ella os fysa ni 'di sylweddoli bod Mike yn cael cardiac arrest yn gynt, fysa ni wedi gallu cael y defibrilator.
"Ond doedd ei symptomau ar y pryd ddim yn dangos hynny, roedd o’n teimlo’n wael ac yn fyr ei wynt, felly doedden ni ddim yn meddwl bod o mor ddifrifol ag oedd o.”
Nod yr elusen yw codi ymwybyddiaeth am gyflyrau’r galon, gan hefyd godi arian i gynnal digwyddiadau sgrinio a gosod peiriannau diffibriliwr ar yr ynys.
Cafodd digwyddiad sgrinio ei gynnal ac ariannu gan y grŵp ym Mae Trearddur y llynedd.
“Cafodd ryw 200 o bobl eu profi,” meddai Chris, “ac mewn 12 o bobl roedd y sgrinio wedi pigo i fyny ar broblemau eitha sylweddol ar eu calonnau. Ers hynny maen nhw wedi cael eu cyfeirio i’r gwasanaeth iechyd a gwneud newidiadau, a fydd o ddim yn broblem iddyn nhw bellach.
“Roedd pump o’r 12 oedd efo problemau posib o dan 21 oed hefyd, felly mae’r problemau yn gallu aros dan y wyneb am flynyddoedd.
Ychwanegodd: "Do'n i ddim yn gwybod pa mor effeithiol ydi defib, mae'n codi'r siawns o survival yn lot uwch mewn pobl sydd yn cael cardiac arrest.
"Ond am bob munud maen nhw'n mynd heb defib, mae siawns nhw o oroesi yn mynd i lawr 10%."
O'r Wyddfa i Ynys Cybi
Gyda chydweithrediad gan elusen Calon Hearts, mae’r elusen yn gobeithio gosod un diffibriwlwr y mis mewn cymunedau lleol.
Maent hefyd yn bwriadu cysylltu gyda chwmnïau adeiladu i'w hannog i ystyried gosod diffibriwlwr mewn ystadau newydd yn y dyfodol.
Mae sawl digwyddiad wedi eu cynnal i godi arian i’r elusen, gan gynnwys cystadleuaeth golff a gododd dros £7,000, a noson cwis yn nhafarn y Vic yng Nghaergybi, a wnaeth godi £380.
Ond am 18.30 nos Sadwrn, fe fydd tua 50 o aelodau teulu a ffrindiau Mike yn cychwyn ar daith gerdded 51 milltir – o gopa’r Wyddfa i gopa Mynydd Caergybi, cyn gorffen ym Mae Trearddur.
Fe fydd gwirfoddolwyr mewn cerbydau yn eu cynorthwyo yn ystod yr her, gyda disgwyl i'r daith gymryd hyd at 16 awr, gydol y nos cyn gorffen fore Sul.
“Mae’n anodd enwi pawb, ond rydan ni mor ddiolchgar i bawb am eu cymorth efo cynllunio’r her, dreifio cerbydau, rhoi bwyd ac offer. Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel.
“Roedd Mike yn foi mor actif, o hyd on the go, a dwi’n gwybod mi fysa wedi mwynhau her fel hyn."
Beth yw ataliad y galon?
Yn ôl elusen British Heart Foundation (BHF) Cymru, ataliad y galon (cardiac arrest) yw pan mae'r galon yn rhoi'r gorau i bwmpio gwaed o gwmpas y corff, gan achosi i'r galon i stopio.
Er ei fod yn aml yn cael ei gamgymryd am drawiad ar y calon (heart attack), mae'r ddau gyflwr yn wahanol.
Yn aml, mae symptomau yn cynnwys:
- Cwympo yn sydyn
- Dim curiad calon
- Dim anadlu
- Colli ymwybyddiaeth (consciousness)
Os ydych chi gyda rhywun sy'n cael ataliad ar y galon, mae'r BHF yn cynghori unigolion i ffonio 999 ar unwaith, dechrau CPR a defnyddio diffibriwlwr, os oes un gerllaw.
Dylid dilyn cyfarwyddiadau'r gweithredwr 999 tan i'r gwasanaethau brys gyrraedd.