Jay Slater wedi marw yn Tenerife 'ar ôl syrthio'n ddamweiniol'

Jay Slater

Mae cwest wedi dod i’r casgliad bod y dyn ifanc Jay Slater a fu farw yn Tenerife wedi dioddef anafiadau i’w ben ôl syrthio'n ddamweiniol i geunant.

Clywodd Llys Crwner Preston bod y dyn 19 oed wedi dweud wrth ei ffrindiau mewn galwad ffôn ei fod “yng nghanol y mynyddoedd” ac angen diod.

Roedd wedi ceisio cerdded taith 14 awr yn y bore ar ôl cymryd cyffuriau ac yfed alcohol ar noson allan.

Roedd Mr Slater, o Oswaldtwistle, Sir Gaerhirfryn, ar wyliau ar yr ynys ar y pryd.

Ar 16 Mehefin y llynedd roedd wedi bod i ŵyl gerddoriaeth NRG gyda ffrindiau yng nghlwb nos Papagayo yn Playa de las Americas.

Ond diflannodd y bore canlynol ar ôl mynd gyda dau ddyn i Airbnb ym Masca, pentref yn y mynyddoedd filltiroedd o'i fflat gwyliau yn Los Cristianos.

Daeth tîm achub mynydd o hyd i'w gorff bron i fis yn ddiweddarach, ar 15 Gorffennaf, yng ngheunant serth Juan Lopez.

‘Marwolaeth drasig’

Clywodd y cwest fod batri ei ffôn wedi marw a'i fod angen diod ond nad oedd ganddo ddŵr wedi iddo gychwyn ar y daith adref yn gynnar yn y bore.

Wrth i'r tymheredd godi, gadawodd y ffordd a mynd i mewn i’r ceunant, lle y dioddefodd anafiadau difrifol i'w ben.

Wrth gau y cwest, dywedodd Dr James Adeley, uwch grwner Sir Gaerhirfryn a Blackburn with Darwen: “Syrthiodd Jay mewn ardal arbennig o beryglus mewn tir anodd.

“Syrthiodd tua 20 i 25 metr, gan dorri ei benglog a dioddef trawma i'r ymennydd.

“Fe fyddai wedi marw ar unwaith. Bu farw Jay Dean Slater yn ddamweiniol.

“Marwolaeth drasig dyn ifanc oedd hon.”

Dywedodd yr awdurdodau yn Sbaen nad oedden nhw'n gallu egluro pam fod Mr Slater wedi gadael y ffordd a mynd i lawr y ceunant o ysytyried nad oedd yn gyfarwydd â’r ardal a bod batri ei ffôn wedi marw.

Roedd modd gweld y môr o ben y ceunant, ac efallai ei fod wedi credu y gallai gyrraedd traeth a chael cymorth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.