Chwilio am ddyn o ogledd Cymru ‘sydd heb ddod nôl o Tenerife’

Gerallt

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth am ddyn o ogledd Cymru y maen nhw’n credu sydd heb ddychwelyd o Tenerife.

Gadawodd Gerallt, sy’n 28 oed, ei gartref yn Llandudno ar Gorffenaf 4.

Y gred yw ei fod wedi hedfan i Tenerife o Faes Awyr Manceinion ar 7 Gorffenaf.

Ond ni wnaeth hedfan yn ôl ar 12 Gorffennaf fel y disgwyl, yn ôl y wybodaeth a ddaeth i lawr yr heddlu.

Mae tua 5' 8" o daldra ac mae ganddo wallt byr, du. Y tro diwethaf iddo gael ei weld roedd yn gwisgo tracsiwt las tywyll ac esgidiau hyfforddi du.

Mae’r awdurdodau yn Tenerife a Llysgenhadaeth Prydain wedi cael gwybod.

“Rydym yn annog unrhyw un a allai wybod ble mae Gerallt, neu i Gerallt ei hun gysylltu i roi gwybod i ni neu ei deulu ei fod yn ddiogel ac yn iach,” meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 51398.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.