Y Samariaid yn bwriadu cau dros 100 o ganghennau

Samariad

Mae elusen atal hunanladdiad y Samariaid wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cau dros 100 o ganghennau ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen Julie Bentley mewn cyflwyniad i staff ei fod yn “debygol o fewn saith i 10 mlynedd y bydd ein rhwydwaith canghennau yn haneru”.

Mae gan Samariaid Cymru ganghennau ym Mangor, Rhyl, Aberystwyth, Hwlffordd, Llandrindod, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Casnewydd a Chymoedd y De.

Does dim cadarnhad eto a fydd unrhyw ganghennau yng Nghymru yn cau.

Mae’r elusen a gafodd ei sefydlu yn 1953 yn dweud eu bod nhw’n derbyn galwad bod 10 eiliad ar gyfartaledd gan bobl yn chwilio am gymorth.

Mewn datganiad dywedodd y Samariaid nad oedd yr elusen yn “gynaliadwy” fel ag yr oedd.

“Mae’r Samariaid yn darparu gwasanaeth sy’n achub bywydau, ddydd a nos, 365 diwrnod y flwyddyn,” medden nhw.

“Ond mae anghenion ein galwyr a’n gwirfoddolwyr yn golygu fod angen i ni feddwl yn wahanol am y ffordd y mae angen i’n gwasanaethau weithio.

“Rydym yn ymgysylltu â’n gwirfoddolwyr ar welliannau arfaethedig a fydd yn golygu y gallwn ateb rhagor o alwadau, cael mwy o wirfoddolwyr ar ddyletswydd a bod yno i fwy o bobl yn eu munudau tywyllaf.

“Mae gwirfoddolwyr y Samariaid yn ymroddedig iawn i fod yno i’n galwyr ac maent yn parhau i fod wrth wraidd ein gwasanaeth.

“Ond mae wedi dod yn fwyfwy amlwg nad yw cael dros 200 o ganghennau, yn amrywio o ran maint o 10 i 300 o wirfoddolwyr, yn gynaliadwy ac mae’n ein rhwystro rhag darparu’r gwasanaeth gorau posibl i bobl sydd ein hangen.”

Bydd bwrdd yr elusen yn pleidleisio ar y cynlluniau mewn cyfarfod ym mis Medi, gyda’r ail-strwythuro yn dechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf yn y DU a 2027 yn Iwerddon.

Os ydych wedi cael eich heffeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl, mae modd dod o hyd i gymorth yn y ddolen yma: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.