Dim cynlluniau ar gyfer cyfyngiadau dŵr meddai Dŵr Cymru
Mae Dŵr Cymru wedi dweud nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno cyfyngiadau ar ddefnydd dŵr ar eu cwsmeriaid eleni.
Daw'r cyhoeddiad wedi i bedwar cwmni dŵr ar draws Lloegr osod gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dyfrio yn y pythefnos diwethaf.
Roedd Dŵr Cymru wedi ymateb i gyhoeddiad ym mis Mehefin fod "sychder yn datblygu" mewn rhannau o dde-orllewin Cymru yn sgil tywydd sych diweddar drwy annog eu cwsmeriaid i beidio â gwastraffu dŵr.
Daeth hynny wedi'r gwanwyn mwyaf sych ers dros 100 mlynedd.
Ond ddydd Gwener dywedodd y cwmni sy’n gwasanaethu y rhan helaeth o gwsmeriaid dŵr Cymru bod y rhan fwyaf o’u cronfeydd bellach "mewn sefyllfa iach”.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod nhw "wedi cadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr ar hyn o bryd".
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau y cwmni eu bod nhw’n “ddiolchgar” i’w cwsmeriaid am ddefnyddio llai o ddŵr a’u bod yn gofyn iddyn nhw “ddal ati”.
“Rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i osgoi cyflwyno cyfyngiadau," meddai.
"Mae ein timau’n gweithio’n ddiflino i reoli’r sefyllfa, ac rydyn ni’n gofyn i’n cwsmeriaid ymuno â ni trwy ddefnyddio dŵr mewn ffordd gyfrifol.
“Mae pob un diferyn sy’n cael ei arbed yn helpu i amddiffyn cyflenwadau dŵr yr ardal.
“Rydyn ni wedi clywed gan lawer o’n cwsmeriaid sy’n dweud eu bod nhw eisoes wedi gwneud newidiadau i leihau eu defnydd o ddŵr er mwyn helpu i amddiffyn yr amgylchedd, sydd wedi bod yn hyfryd i’w weld.
“Er nad oes angen gwahardd defnyddio pibellau dyfrio eto, rydyn ni’n cadw llygad barcud ar y sefyllfa.”
Tywydd sych
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod y gogledd-orllewin wedi dychwelyd i statws ‘tywydd sych estynedig’ ond nad oes yna bryderon o ran cyflenwadau dŵr yr ardal ar hyn o bryd.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Dŵr Cymru statws ‘Sychder yn Datblygu’ ar gyfer rhwydwaith dŵr Canolbarth a De Ceredigion, sy’n cynnwys rhannau o ogledd Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro.
Mae lefel cronfeydd dŵr Pyllau Teifi, sy’n gwasanaethu’r ardal, yn parhau 28% yn is na’r adeg hon y llynedd, medden nhw.
Mae’r cwmni yn dweud eu bod nhw wedi cyflwyno rhaglen i gyflymu gwaith i drwsio gollyngiadau yng Ngheredigion.